Mae Horizon Nuclear Power wedi cadarnhau ei gefnogaeth i elusen gerddoriaeth Aloud drwy ddod yn Aelod Sefydlu ei Chynllun Aelodaeth Gorfforaethol, Calon.
Mae Elusen Aloud yn cynnal 14 o gorau Only Boys Aloud ledled Cymru, gan weithio gyda bechgyn 11-19 oed i roi hwb i’w hyder a’u sgiliau drwy gyd-ganu a darparu cyfleoedd perfformio trawsffurfiol.
Lluniwyd y cynllun aelodaeth gorfforaethol i annog busnesau Cymru i gefnogi gwaith yr elusen a dangos eu hymrwymiad i fuddsoddi yn eu cymunedau lleol.
Meddai Sasha Davies, Pennaeth Datblygu Strategol Horizon Nuclear Power:
“Rydyn ni’n eithriadol o falch o gael cefnogi Elusen Aloud a’u hymdrechion i gael mwy o bobl i ganu ledled gogledd Cymru.
“Mae Aloud yn sefydliad gwych sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu hunan-gred a hunan-hyder a hybu eu dyheadau – a’r cyfan drwy bŵer canu! Mae canu’n rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru a theimlwn falchder o gael helpu’r elusen i roi rhagor o gyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf o gantorion.”
Meddai Tim Rhys Evans MBE, Cyfarwyddwr Artistig Aloud:
“Rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar bod Horizon Nuclear Power yn Aelod Sefydlu Cynllun Calon. Mae’n glir bod y gwaith y mae Aloud yn ei gyflawni mewn cymunedau lleol drwy raglen Only Boys Aloud yn wasanaeth y mae angen mawr amdano, ac ni allem barhau i gyflawni’r gweithgarwch hwn heb ein partneriaid cyllido. Gobeithiwn y bydd y bartneriaeth hon yn sbardun i annog busnesau eraill i gefnogi’r celfyddydau ledled Cymru.”
Mae Horizon Nuclear Power wedi dangos ei ymrwymiad i gefnogi cymunedau lleol drwy amryw roddion a nawdd, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Môn.