GŴYL PALAS HAMPTON COURT GYDA KATHERINE JENKINS

Proffil uchel

Yn ddiweddar, cawsom y pleser o berfformio ochr yn ochr â Katherine Jenkins ym mhalas hardd Hampton Court yn Llundain. Roedd y daith ar y bws i’r digwyddiad yr un peth â’r arfer – yn llawn sgwrsio, chwerthin ac, wrth gwrs, digon o ganu! Ond y tro yma, cawsom deithio mewn steil! Ar ôl mynd ar y bws, gwelwyd yn o fuan ein bod wedi cael y fraint o deithio ar fws Tîm Cymru, oedd yn cynnwys seddi lledr, Sky+ HD, a chegin fach hyd yn oed! Roedd o’n deimlad mor gyffrous cael perfformio yn y lleoliad eiconig yma. Dyma oedd fy nghyngerdd olaf gyda Only Boys Aloud, felly roedd gen i deimladau cymysg cyn ein perfformiad, ond ar ôl i ni fynd ar y llwyfan, y cyfan yr oeddwn i’n gallu meddwl amdano oedd bod yn gyfan gwbl yn y foment, a mwynhau pob eiliad, yn perfformio o flaen y dorf groesawgar ac, wrth gwrs, gyda Katherine ei hun. Roedd y gynulleidfa’n ymddangos fel pe baen nhw wrth eu bodd â’n perfformiad, wnaeth y profiad yn well fyth. Fel perfformiad olaf, roedd hwn yn bendant yn ddiweddglo arbennig i’m cyfnod gyda Only Boys Aloud.

Brandon, OBA Cwmbrân

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.