Ar ddydd Gwener 1af o Fawrth, aeth 120 aelod o Only Boys Aloud o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn Seremoni Gwobrau M&IT yn Battersea Evolution yn Llundain. Cafodd y digwyddiad ei noddi gan ICC Wales sydd hefyd yn aelodau o’n cynllun Calon Corfforaethol. Canodd y bechgyn wrth i’r 1500 (!) o wahoddeidigion gyrraedd ar gyfer un o seremoniau mwyaf blaenllaw y diwydiant digwyddiadau. Gan taw Dydd Gwyl Dewi ydoedd, canwyd Calon Lân, Sospan Fach ac ambell un arall o’n ffefrynnau Cymreig, yn ogystal ag ambell gân newydd megis You Will Be Found o Dear Evan Hansen. I orffen ein set, canodd y bechgyn Calon Lân ar y prif llwyfan ac roedd y sain yn anhygoel! Roedd yn daith hir iawn adref i rhai o’r bechgyn, yn enwedig criw Caergybi, ond yn sicr roedd yn werth y siwrne hir i Lundain!