Daeth aelodau Only Boys Aloud o Ogledd a De Cymru at ei gilydd i berfformio yn y 25ain Gwobrau Arts & Business Cymru ar y 25ain o Fai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Roedd y bechgyn yn syrpreis a bu’r noson hyd yn oed yn fwy cyffrous wrth iddynt ganu deuawd gyda’r canwr a chyfansoddwraig caneuon, Amy Wadge. Perfformiodd Amy â’r bechgyn y gân a gyfansoddwyd ar gyfer Ed Sheeran ac a ennillodd gwobr Grammy – Thinking Out Loud. Cafodd pob un o’r bechgyn gyfle i gwrdd ag Amy a chafodd pawb noson wych.
Aloud hefyd oedd enillydd y wobr fawreddog – Gwobr Celfyddydau Hodge.
Mae’r wobr hon yn cydnabod y sefydliad celfyddydol / artist sydd wedi gweithio’n greadigol mewn partneriaeth â busnes i gynnal a datblygu gweithgareddau.
Cydnabuwyd Aloud am ein partneriaethau gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality, Hodge Foundation a Fforwm Gofal Cymru.