GEN Z: Albwm Aloud

OKA

Mae albwm Elusen Aloud yma!

O’r enw GEN Z, mae’r albwm hwn yn cynrhychioli ein cyfranogwyr ac yn adlewyrchiad o’i hangerdd a’i hymroddiad dros y blynyddoedd. Yn amrywiol a digidol, ‘Generation Z’ yw’r garfan ddemograffig sy’n dilyn Millennials.

Y gerddoriaeth

Mae’r albwm yn cynnwys ein tri côr: Only Boys Aloud, Only Kids Aloud a Merched Aloud Girls. Mae’r traciau yn amrywio o ganeuon sioeau cerdd fel You Will Be Found o Dear Evan Hansen, i ganeuon mwy traddodiadol Cymraeg fel Gwinllan. Gwyliwch y fideo yma i ddod i wybod mwy am greu’r albwm.

 

 

Y gwaith celf 

Comisiynwyd artist lleol Cymraeg i greu’r clawr a’r llewys. Mae Beth Morris yn artist creadigol sy’n arwain gweithdai cymunedol i rannu ei hangerdd dros gelf a chrefft. Yn artist ac athrawes brofiadol, mae Beth yn gweithio gyda plant ac oedolion o bob oedran i annog hyder mewn creadigrwydd.

Creu’r albwm 

Rydym wedi bod wrthi am fisoedd yn paratoi, trefnu ac ymarfer ar gyfer yr albwm hwn. Ar ôl datblygu’r sgoriau a’r traciau cefndir, roedd ein cyfranogwyr yn barod i recordio eu lleisiau swynol yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, Gwersyll yr Urdd Caerdydd, Ty Cerdd a Venue Cymru.

Ariannu’r albwm 

Fel y gwyddoch, gwnaed yr albwm hwn gyda chymorth ein cefnogwyr. Yn ystod Tachwedd 2021 a Ionawr 2022 cynhaliom brosiect codi arian torfol gyda’r ymgais o godi £10,000 ar gyfer creu’r albwm. Roedd y gefnogaeth y derbyniom yn hynod bositif, gyda chyfraniadau a rhoddion yn dod o bob cwr o’r byd. Dros y 10 wythnos llwyddom i basio ein targed a chodi swm anhygoel o £14,410 drwy gyfraniadau arlein ac oddi arlein. Rydym yn dal i fod yn hynod ddiolchgar o’r gefnogaeth – heb hyn ni fyddai GEN Z yma heddiw.

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Aloud. Craig Yates:

“Rwyf yn hynod falch o’r albwm newydd yma. Mae wedi bod yn waith caled dros y flwyddyn ond mae’r albwm gorffenedig yn swnio’n anhygoel ac yn edrych yn wych. Mae wedi bod yn brosiect bersonol iawn i mi. Dyma’r albwm cyntaf yr ydw i wedi ei gynhyrchu, dewisais y repertoire a bûm yn brysur yn paratoi rhai o’r trefniadau lleisiol. Diolch o galon i’r rhai sydd wedi’n cefnogi i greu’r albwm hwn drwy ein hymgrych cyllido torfol. Ni fyddai’r albwm yma heblaw amdanoch chi. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r albwm gymaint a minnau.”

Am ffordd wych i ddathlu ein 10fed mlynedd fel elusen. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r albwm gymaint a’r hwyl y cawsom ni yn ei recordio. Gallwch brynu’r albwm yma.

Diolch anferthol i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch. Hebddoch chi, ni fyddem yn gallu parhau i gynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc Cymru. Diolch.

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.