Cyhoeddir heddiw bod elusen ALOUD wedi penodi Dr Ian Rees yn gadeirydd newydd I olynu Menna Richards.
Mae gan Dr Rees brofiad helaeth ym myd addysg a hyfforddiant. Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Grwp LLandrillo Menai roedd yn gyfrifol am gynnig gwasnaethau hyfforddiant a datblygu staff I fusnesau yng ngogledd Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae Ian hefyd wedi bod yn Bennaeth ar sawl un o golegau blaenllaw Cymru gan gynnwys Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai
Roedd hefyd yn is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn gadeirdydd pwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg.
Mae ganddo ddiddordeb dwfn yn y celfyddydau, a chanu corawl yn arbennig. O Gwm Tawe’n wreiddiol, mae Ian nawr yn byw yng Nghricieth.
Dywedodd Ian Rees: ”Mae’n fraint ac yn gyffrous i fi gael cymryd y gadair gydag elusen ALOUD er mwyn ceisio adeiladu ar waith gwych Menna Richards. Byddaf yn ymuno gyda thîm arbennig iawn o bobl. Mae canu corawl yn golygu llawer iawn i fi a dwi’n benderfynnol o weithio er mwyn parhau i gynnig profiadau cerddorol a phrofiadau bywyd i’r cantorion ifanc sydd yn elwa o waith ALOUD”.
Dywedodd Menna Richards: “Rwy’n falch dros ben o gyflwyno’r awennau I Ian. Mae ei brofiad ym myd addysg a ‘r celfyddydau a’I frwdfrydedd a’I ddileit mewn canu yn golygu fod gan elusen ALOUD gadeirydd sydd â dealltwriaeth ddofn o werthoedd ac uchelgais ALOUD.”
Dywedodd Rachel Dominy, Prif Weithredwr “Mae Menna wedi bod yn rhan o wead ALOUD ers y cychwyn, yn ddiweddar fel Cadeirydd gwych I’r elusen. Mae hi wedi dod â chymaint I’r sefydliad. Byddwn yn gweld ei heisiau a ry’n ni’n diolch iddi am ei hymrwymiad a’i chefnogaeth dros y blynyddoedd. Ry’n ni wrth ein bodd mai Ian sy’n cymryd drosodd: bydd ei brofiad, ei egni a’I frwdfrydedd, heb sôn am ei lais tenor, yn sicrhau y bydd ALOUD yn parhau I ffynnu dros y blynyddoedd nesaf”.