Rydym yn falch o gyhoeddi lawnsiad albwm newydd! Gallwch ymweld â’n tudalen Crowdfunder yma.
Mae’r ymgyrch hwn yn arddangos gwaith caled, ymroddiad ac angerdd ein aelodau ifanc ar draws Cymru, gan ddathlu lleisiau Only Boys Aloud, Aloud Girls ac Only Kids Aloud.
Ond i wireddu’r albwm newydd hwn, rydym wir angen eich cefnogaeth.
Bydd pob cyfraniad yn ein harwain un cam yn agosach at recordio a rhyddhau’r CD newydd yn ogystal â’n helpu i ddarparu cyfleoedd a phrofiadau gwbl trawsffurfiol i’n haelodau.
Rydym yn falch o allu cynnig amrywiaeth gyffrous o wobrau unigryw yn gyfnewid am eich cefnogaeth arbennig.
Plis cyfrannwch heddiw i helpu ni gyrraedd ein targed. Gyda’n gilydd, gallwn wireddu ein gweledigaeth o ryddhau albwm Aloud newydd yn 2022!
Am fwy o wybodaeth ynghylch pwysigrwydd y prosiect ac i gyfrannu, ewch i’n tudalen Crowdfunder.
Diolch o galon am eich holl gefnogaeth,
Gyda chariad gennym oll yn Elusen Aloud x
Beth arall y gallaf ei wneud i gefnogi’r apêl hon?
Os ydych yn falch o fod wedi cefnogi ein hymgyrch ac os hoffech gyhoeddi’r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol, lawrlwythwch a rhannwch unrhyw un o’r deunyddiau digidol isod i’n helpu i ledaenu’r gair. Po fwyaf y gallwn ledaenu’r neges, y mwyaf o siawns sydd gennym o gyrraedd ein targed uchelgeisiol.
Sticer:
Facebook:
Instagram: