Wrth i ni fyfyrio ar y flwyddyn academaidd 2022/23, hoffem gymryd y cyfle i ddweud diolch enfawr i’n holl gefnogwyr gwych!
Mae eich cred a’ch cymorth ariannol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ein galluogi i barhau i fod yn ddewr ac uchelgeisiol wrth i ni ail sefydlu ein hunain yn dilyn pandemig Covid-19 a’n galluogi i gael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc o gymunedau ledled Cymru.
Mae uchafbwyntiau’r hyn y gwnaeth eich cymorth ein galluogi i’w gyflawni yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23 yn cynnwys:
- 339 ymarfer Only Boys Aloud ar draws 11 lleoliad yng Nghymru.
- 10 ymarfer Only Girls Aloud wedi cu cynnal yng Nghaerdydd.
- 57 aelod o Only Girls Aloud wedi eu recriwtio ar gyfer ail gôr yng Ngorllewin Cymru
- Canodd 61 aelod o Only Kids Aloud mewn 4 sioe yn y sioe Nadolig Let’s Sing Christmas yn Disneyland Paris.
- 6 cyfarfod rhithiol o’r Fforwm Ieuenctid Only Boys Aloud gyda 14 o gyfranogwyr ledled Cymru’n cyfrannu at ddatblygiad a chynnydd y sefydliad.
- Rhaglen ddogfen 4 rhan ar S4C yn cynnwys ein holl Gorau Aloud a gefnogwyd drwy’r flwyddyn.
- 1 Cyngerdd Nadolig o Gadeirlan Aberhonddu ar y teledu’n cynnwys 192 o’n cantorion ar lwyfan.
- Cwrs preswyl i aelodau Academi Only Boys Aloud a ganodd mewn 8 iaith wahanol, a berfformiodd 2 gyngerdd yn y Gadeirlan ac a gynrychiolodd Cymru yn yr Ŵyl Interceltique de Lorient.
- Cyfle i 989,000 o bobl brofi Academi Only Boys Aloud yn fyw yng Ngŵyl Interceltique de Lorient.
- Gwyliodd 12.3 miliwn o bobl yr Academi Only Boys Aloud yn cymryd rhan yng Nghyngerdd y Coroni’n fyw o Gastell Windsor.
- Derbyniodd 671 o fyfyrwyr o Japan weithdy gan ein 4 Arweinydd Côr Aloud ar drip i Japan.
- Cymerodd 190 o ddisgyblion blwyddyn chwech ran mewn prosiect pontio Aloud yn y Dosbarth gan weithio gyda 12 ysgol gynradd oedd yn bwydo 2 ysgol uwchradd.
Nid ydym yn derbyn unrhyw arian statudol na chyhoeddus ac rydym yn ddibynnol ar eich cymorth i barhau i ddarparu profiadau unigryw megis y rhain i bobl ifanc ledled Cymru!
Mae eich rhoddion yn ein galluogi i sicrhau bod ein rhaglenni côr Only Boys Aloud ac Only Girls Aloud yn rhad ac am ddim ac nid yn seiliedig ar glyweliad fel bod unrhyw berson ifanc yng Nghymru’n cael cymryd rhan.
Diolch – ni fyddai modd i ni wneud hyn heboch chi!
Darllenwch fwy am sut allwch chi gefnogi gwaith Elusen Aloud yma.