Dros y flwyddyn diwethaf mae Elusen Aloud a Cazbah wedi datblygu partneriaeth newydd sydd wedi ein harwain at ffordd drawsnewidiol o gyfathrebu gyda’r aelodau côr. Cafodd y bartneriaeth yma ei gefnogi gan fuddsoddiad CultureStep A&B Cymru.
Drwy’r bartneriaeth yma, darparodd Cazbah ni â platfform ar-lein newydd ar gyfer aelodau côr Aloud o’r enw eventbocs. O wneud hyn, rydym wedi symleiddio sut mae aelodau côr yn ymgysylltu â ni ar-lein. Wrth ddarparu ein haelodau â’r gallu i ymuno ag ymarferion rhithiol, gwylio tiwtorialau defnyddiol a dod i wybod am ddiweddariadau pwysig ar un platfform, rydym wedi gallu hwyluso ein ffyrdd o ymgysylltu a sicrhau cyfathrebu mwy cyson. Gan nad oeddem yn gallu cynnal ymarferion wyneb-yn-wyneb am bron i ddwy flynedd, mae gwella’n ffyrdd o gyfathrebu gyda chymorth Cazbah wedi bod yn amhrisiadwy i ni fel elusen.
Mae’r bartneriaeth wedi bod yn ffrwythlon i Cazbah hefyd, sef cwmni marchnata, rheoli ac ymchwil. Dywedodd Kate Parsons – Cyfarwyddwr Cazbah:
“Mae cefnogi Aloud dros gyfnod mor anodd i gantorion a cherddorion wedi bod yn wych. Er fod ymarferion wyneb-yn-wyneb bellach yn ôl, rydym yn gobeithio y bydd y porthol arlein yn parhau i fod o ddefnydd i’r holl bobl ifanc. Mae hi wedi bod yn bleser helpu a rydym yn fwy na pharod i gefnogi Aloud mewn unrhyw ffordd yn y dyfodol.”
Dywedodd Craig Yates – Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud:
“Mae holl grwpiau Aloud wedi elwa’n fawr o’n partneriaeth gyda Cazbah a’r adnoddau gwych yr ydym wedi eu derbyn drwy Eventbocs. Mae wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio, gan sicrhau fod ein holl aelodau côr â mynediad i bopeth maent eu hangen i fod yn aelod o gôr Aloud. Mae Eventbocs bellach yn declyn ar-lein hanfodol sy’n eu darparu â’r gallu i ddysgu eu cerddoriaeth, dod i wybod pryd mae eu hymarferion ac eu galluogi i ymuno ag ymarfer ar-lein o bob cwr o Gymru. Diolch anferth i Arts & Business Cymru am wneud y bartneriaeth wych yma yn bosib.”
Gyda chymorth Cazbah, rydym yn edrych ymlaen at ein dyfodol fel elusen. Hoffem ddiolch unwaith eto i gynllun CultureStep A&B Cymru am gefnogi’r bartneriaeth llwyddiannus.