Mae Elusen Aloud wedi cyhoeddi apwyntiad Carys Wynne Morgan fel eu Prif Weithredwr newydd i olynu Rachel Dominy.
Mae Carys ar hyn o bryd yn Rheolwr Portffolio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi gweithio yn y Sector Ieuenctid ac mewn Awdurdodau Lleol ar draws De Cymru gyda ffocws ar Ddatblygu’r Celfyddydau, Rheoli Digwyddiadau ac Ymgysylltu Cymunedol. Bu hefyd yn gweithio fel Rheolwr Rhaglen gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae wedi parhau gyda rôl ymgynghorol.
Hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Mynyddislwyn, mae Carys yn rhugl yn y Gymraeg.
Dywedodd Carys Wynne Morgan:
“Dwi wrth fy modd fy mod yn cymryd y rôl yma ar gyfnod mor allweddol i’r sector celfyddydol yng Nghymru. Mae amcanion Elusen Aloud yn agos iawn at fy nghalon, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac mae ymuno gyda’r tîm, a’i harwain i’r cam nesaf yn eu siwrne, yn rhywbeth cyffrous iawn i fi”.
Dywedodd Dr Ian Rees, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Elusen Aloud:
“Mae Ymddiriedolwyr Aloud wrth eu boddau fod Carys am ymuno gyda ni fel ein Prif Weithredwr newydd. Bydd yn adeiladu ar waith ardderchog Rachel Dominy – rydym yn diolch yn ddiffuant iawn i Rachel am ei arweinyddiaeth o Aloud ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol”.
Bydd Carys yn ymuno gyda, ac yn arwain, tîm arbennig iawn o staff brwdfrydig ac ymroddedig ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous, gyda phobl ifanc Cymru unwaith eto yn cael y cyfle i ddod at ei gilydd i ganu, mewn ystafelloedd ymarfer ac ar lwyfan yn dilyn y cyfnod pandemig diweddar”.