Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni rydym yn dathlu aelodau gwych côr Only Girls Aloud a’r holl bethau maen nhw wedi’u cyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen!
Sefydlwyd côr Only Girls Aloud yn 2022, ac mae’n cynnwys 90 o ferched oed ysgol uwchradd o bob rhan o Dde Cymru. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol i ddysgu repertoire amrywiol yn cynnwys ‘I am Light’ gan India Arie Simpson, ‘It Means Beautiful’ o’r sioe gerdd boblogaidd Everybody’s Talking About Jamie, a threfniant o ‘Just Breathe’ a ysgrifennwyd gan y Sylfaenydd Tim Rhys-Evans a’r Llysgennad Amy Wadge fel rhan o’r prosiect A Song for Wales.
Mae’r grŵp yn croesawu siaradwyr gwadd ysbrydoledig sy’n trafod eu profiadau bywyd, llwybrau gyrfa ac yn rhannu eu straeon eu hunain. Mae hyn wedi arwain at greu grŵp ymgysylltiol ac uchelgeisiol sy’n cefnogi ei gilydd i feithrin eu hyder a hunanfynegiant. Ymhlith y siaradwyr gwadd blaenorol mae Chloe Smith sylfaenydd Bigmoose Coffee Co, y gantores a’r actores o Gymru Sophie Evans, Capten Nicola Willcox sy’n beilot i Brirish Airways, a’r Ffotograffydd Rebecca Toner.
Y siaradwr gwadd fydd yn ymweld â’r merched yn eu hymarfer nesaf ar 11 Mawrth 2023 fydd Mari Thomas.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Only Girls Aloud wedi:
- Recordio traciau ar gyfer yr albwm Aloud, Gen Z (2022)
- Bod yn rhan o’r rhaglen ddogfen Aloud Dathlu 10 ar S4C
- Perfformio yn y Cyngerdd Pen-blwydd Caerdydd
- Perfformio yn y Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar gyfer ein darllediad Nadolig.
- Perfformio ar gyfer gwesteion yn y Cinio Codi Arian chwe-misol yn CBCDC.
“Being a part of one of Wales’ number 1 girls’ choirs enables me to reach my potential in the future. It gives me a base to work from. It allows me to pass on my knowledge and experiences to those girls just starting out in Only Girls Aloud. This then helps me to transfer skills that I will need to succeed in my chosen career” Cyfrannog Only Girls Aloud
“Having my daughter be a part of Only Girls Aloud gives me a sense of pride and knowledge that she is accepted by everyone within the group and that she is able to express herself in a safe, happy and nurturing environment.” Rhiant Only Girls Aloud
“My daughter joined OGA in autumn 2021 when we had just moved back to Wales after six years living in Washington DC. How we missed the world-renowned Welsh choral tradition there! My daughter feels privileged to be back in the fold making beautiful music, widening friendship groups and above all, having fun. And as a Mam listening in, I can’t help but feel immensely proud that she is now immersed in such a wonderful organisation with such high musical standards. Brings tears to my eyes! Diolch.” Rhiant Only Girls Aloud
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddod yn aelod, cysylltwch â: [email protected]
Hoffem ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru: Create, Scops Arts Trust a’r Tŷ Cerdd am gefnogi Only Girls Aloud