Yn Elusen Aloud, rydym yn ddigon ffodus i weld â’n llygaid ein hunain yr effaith mae cydganu’n rheolaidd yn ei gael ar y bobl ifanc sy’n rhan o’n corau.
Rydym wedi gweld miloedd o bobl ifanc â’u hyder yn ffynnu dros y blynyddoedd, gan drechu’r pryder o fynd i ymarfer cyntaf er mwyn gwneud ffrindiau a phrofi’r cyfleodd i berfformio.
“It is always amazing seeing what being a member of an Aloud choir does for the confidence of our members. Seeing them grow in self-assurance over the time they are with us is a real joy to see. They learn so many skills and life lessons being part of a choir – it’s not just about the singing!” Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol
Dyna pam ei fod mor foddhaol gweld gwaith ymchwil yn cadarnhau’r hyn mae ein tîm yn ei brofi bob wythnos.
Mae Elusen Aloud wedi derbyn canlyniadau gwerthusiad o’n gwaith a gomisiynwyd yn allanol.
Wrth i’n corau ddychwelyd i ymarferion wyneb yn wyneb yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22 yn dilyn pandemig Covid-19, dyma ni’n defnyddio’r cyfle i werthuso effaith bod yn rhan o’n corau.
Gan ddefnyddio fframwaith pwrpasol, gwnaethom olrhain newidiadau mewn ymddygiad a llesiant yn erbyn 4 Dangosydd Perfformiad Allweddol:
- Hyder/Hunan-barch
- Gorbryder Cymdeithasol
- Canolbwyntio
- Prydlondeb
Roedd y newid mwyaf yn ystod blwyddyn 2021/22 yn ymwneud â lefel yr hyder ymysg aelodau newydd corau Only Boys Aloud.
Yn hydref 2021, roedd 76% o aelodau newydd y corau’n “gobeithio y bydden nhw’n teimlo’n fwy hyderus”.
Erbyn haf 2022, dywedodd 100% eu bod “yn bendant yn fwy hyderus” ar ôl iddyn nhw gymryd rhan.
“I think the main thing that stood out for me is how inclusive it is for everyone. And even though I hated my singing voice (and at times still do) and wasn’t very confident about it, it’s as if someone is just sat there saying: ‘I don’t mind how good or bad you sing, just come along to it. Have fun, socialise, and enjoy it’, rather than seeing it as a thing you have to be good at to join.” Noah Pooley, Cyfrannog Only Boys Aloud
Gallwch ddarllen am brofiadau Noah, gofalwr 17 oed, o ymuno ag Only Boys Aloud yng Ngorllewin Cymru, a sut wnaeth hynny ddatblygu ei hyder, fan yma:
Astudiaeth Achos – Côr Only Boys Aloud Aberystwyth blwyddyn academaidd 2021/22
Yn hydref 2021 fe wnaethom ni lansio corau newydd Only Boys Aloud yng Ngorllewin Cymru.
Hydref 2021
Nododd 64% o’r 15 o gyfranogwyr bod ganddyn nhw “ddiffyg hyder” (Lefel 1) yn y sesiwn gyntaf a dim ond 1 cyfranogwr a nododd eu bod yn teimlo’n “hyderus iawn” (Lefel 3). Roedd 42% o’r bechgyn yn dweud eu bod yn teimlo’n “bryderus iawn”.
Rhagfyr 2021
Roedd 42% o’r cyfranogwyr wedi neidio i’r lefel nesaf o hyder, roedd 21% yn llai pryderus, a dangosodd 1 bachgen welliannau o ran canolbwyntio, hyder a llai o bryder.
Ionawr 2022
Roedd pob un o’r bechgyn wedi gwella mewn o leiaf un o’r dangosyddion perfformiad allweddol. Gwelwyd y newidiadau mwyaf yn y lefelau gorbryder: roedd 62% bellach heb fod yn dangos unrhyw orbryder o gwbl (Lefel 3) ac roedd gorbryder wedi lleihau yn y 38% arall (Lefel 2).
Mawrth 2022
Roedd 25% o’r bechgyn wedi cyrraedd Lefel 3 ym mhob un o’r 4 categori. Nid oedd neb ar Lefel 1 mewn unrhyw gategori.
“Even if you’ve had a terrible day, you come out of OBA with a fresh happiness. You can say to yourself, “Oh well, I don’t know what happened today, but I’m happy now and I can go to sleep and get the rest of my week done!”
Mae canlyniadau’r gwerthusiad wedi amlygu’r rôl y gall cydganu ei chwarae wrth godi hyder, gwella llesiant, ac adeiladu synnwyr o gymuned. Byddwn yn parhau i werthuso effaith bod yn rhan o’n corau a byddwn yn estyn allan yn ein cymunedau i sicrhau bod y buddion hyn ar gael i hyd yn oed mwy o bobl ifanc ledled Cymru.