Cysylltu Cymunedau ym Merthyr Tudful

Newyddion

Ar ddiwedd mis Medi, croesawodd cyfranogwyr Only Boys Aloud ym Merthyr Tudful lu o westeion i’w hymarfer nos Iau fel rhan o ddigwyddiad rhwydweithio arbennig yn Redhouse Cymru.

“Ein gobaith wrth lunio’r digwyddiad oedd i ymgysylltu’n fwy gyda chymunedau lleol Merthyr Tudful, i ddysgu mwy am beth sy’n digwydd yn barod a datblygu partneriaethau inni fedru codi ymwybyddiaeth am yr hyn sydd ar gael i bobl ifanc yn lleol ac o ganlyniad i hyn, medru cynnig gwasanaeth gwell. Ein bwriad yn yr hir dymor yw i gwreiddio’n gwaith yn well yma. Os cawn lwyddiant gyda’r ffordd yma o weithio, hoffen ail-greu’r profiad mewn ardaloedd dros Gymru lle’r ydym yn cynnal gweithgaredd cyson.” Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr, The Aloud Charity

Roedden ni’n falch iawn o groesawu Maer Merthyr Tudful Declan Sammon, Maer Ieuenctid Merthyr Tudful Samee Furreed, Dirprwy Faer Ieuenctid Merthyr Tudful Katy Richard, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful Jane Sellwood ac AS Merthyr Tudful a Rhymni Gerald Jones i’n hymarfer Only Boys Aloud ar 29 Medi lle gafodd gwesteion y cyfle i weld y grŵp ar waith.

Rhoddodd y digwyddiad y cyfle am gydweithrediad traws-sector gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth, Addysg a Gwasanaethau Iechyd i gyd yn bresennol. Cafodd gwesteion y cyfle i brofi ymarfer Only Boys Aloud drostyn nhw eu hunain a chymryd rhan yng ngweithgareddau cynhesu’r llais a’r corff ar ddechrau’r sesiwn.

“It was great to catch up with the team behind The Aloud Charity. Listening to some of the stories of the impacts on the lives of the young people involved, the confidence they build, and the career paths they have gone on to follow was truly inspiring and we are so glad to welcome them for rehearsals at Redhouse. Taking part and watching the rehearsals was a fantastic experience highlighting how very talented and enthusiastic the staff and young people are” Jane Sellwood, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful

“It was amazing to see the brilliant work being done by Aloud to help support young people across Wales through the power of song” Samee Furreed, Faer Ieuenctid, Merthyr Tudful

Ein bwriad yw parhau i archwilio cyfleoedd i ehangu ein rhwydweithiau ledled Cymru ac yn y cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw er mwyn sicrhau bod y cyfle a’r buddion sy’n dod o gymryd rhan mewn côr Only Boys Aloud ar gael i hyd yn oed mwy o bobl ifanc.

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.