Fel pawb arall, cawsom ein swyno gan glyweliad cyntaf Welsh of The West End ar Britain’s Got Talent dros y penwythnos. I Aloud, roedd hi’n foment arbennig iawn…
Tom Hier
Roedd Tom yn aelod o’r côr Only Boys Aloud cyntaf erioed yn ôl yn 2010 ac mae nawr yn berfformiwr llwyddiannus yn y West End ac yn rhan o Only Men Aloud. Yn rhyfedd iawn, roedd yn aelod o’r côr pan ddaeth Only Boys Aloud yn drydydd ar Britain’s Got Talent yn 2012 – deng mlynedd yn union yn ôl! Rydym yn hynod o falch o lwyddiant Tom gyda BGT, y tro yma gyda Welsh of The West End. Bydd Tom hefyd yn perfformio unawd ar ein halbwm newydd sydd yn cael ei berffeithio ar hyn o bryd. Gwyliwch Tom yn perfformio gyda OBA yn ystod y clo mawr yma.
Steffan Rhys Hughes
Steffan yw sylfaenydd Welsh of The West ac yn ystod y clo mawr bu’n brysur yn diddanu’r genedl drwy uwchlwytho ei fersiynau unigryw o ganeuon sioeau cerdd ar YouTube. Roedd Steffan yn Arweinydd Côr gyda Aloud am 5 mlynedd ac felly mae wedi dysgu degau o fechgyn ifanc! Gwyliwch Steffan a Tom Hier yn perfformio deuawd hyfryd gyda’i gilydd yma.
Sophie Evans
Mae Sophie Evans yn gantores hynod dalentog o’r Rhondda. Cafodd Only Boys Aloud gyfle i berfformio’n rhithiol gyda hi dros y clo mawr. Gwyliwch y fideo yma. Bydd Sophie hefyd yn perfformio unawd ar ein albwm newydd, sy’n hynod gyffrous!
Dymunwn y gorau i Welsh of The West End ar ei siwrnai Britain’s Got Talent, gan ein hatgoffa mai Cymru wir ydi Gwlad y Gân! Pob lwc!