Cynnydd enfawr yn nifer aelodau Only Boys Aloud wedi hwb recriwtio ym mis Medi!

Newyddion

Roedd mis Medi yn fis prysur ar gyfer Aloud, wrth i ni recriwtio ar gyfer Only Boys Aloud!

Bu i’n tîm ymrwymedig o Arweinwyr Côr ddarparu 32 gweithdy mewn ysgolion ledled Cymru, lle cafodd disgyblion flas ar fod yn aelod o Only Boys Aloud!

Fel rhan o’r gweithdai, bu disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o gemau a gweithgareddau, cyn dysgu cân mewn harmoni dwy neu dair rhan. Roedd ein Harweinwyr Côr, sy’n gyn aelodau’r côr, wrth law er mwyn ateb cwestiynau disgyblion ynglŷn â sut beth yw bod yn aelod o gôr Only Boys Aloud. Bu i ni hefyd rannu ffilm o rai o’r cyfleoedd perfformio unigryw y derbyniodd ein haelodau, er mwyn rhoi ysbrydoliaeth i’r disgyblion!

Diolch i Only Boys Aloud am y gweithdy recriwtio! Roedd y bechgyn wedi mwynhau yn fawr 

Ysgol Henry Richard

Yn dilyn y gweithdai hyn, braf iawn yw gallu cyhoeddi bod ein haelodaeth Only Boys Aloud wedi cynyddu 30% yn y mis diwethaf yn unig!

Dyma oedd y tro cyntaf ers y pandemig Covid-19 i ni allu cynnal amserlen lawn o sesiynau recriwtio mewn ysgolion, a phleser mawr oedd cael cyfarfod disgyblion ledled Cymru, a gweld pa mor frwdfrydig yr oeddent wrth gymryd rhan! Cafodd y pandemig Covid-19 ystod o effeithiau negatif ar lesiant pobl ifanc, a oedd yn isel eu hyder ac yn brin o gyfleoedd cymdeithasu yn ystod y cyfnodau ynysu. Gyda mwy a mwy o ymchwil yn amlygu buddion canu mewn côr, bydd bod yn rhan o Only Boys Aloud yn cynnig llawer mwy na chân yn unig i’n haelodau newydd.

Thank you so much to Only Boys Aloud for delivery an amazing workshop with our pupils. All of the boys involved were amazing and even sang in 3-part harmony! Ysgol St John’s

“Diolch yn fawr i Aled Evans am gynnal gweithdy GWYCH efo’n bechgyn CA3” Ysgol Maes Garmon

Braf iawn oedd croesawu ein haelodau newydd i’n hymarferion côr wythnosol ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at gynnal mwy o sesiynau recriwtio ac at ddatblygu ar lwyddiannau’r mis diwethaf.

Mae gennym ystod eang o gyfleoedd perfformio cyffrous ar y gweill ar gyfer ein haelodau côr, ac rydym wastad yn croesawu aelodau newydd i’n grwpiau.

Darganfyddwch eich côr Only Boys Aloud lleol, a sut i ymuno, yma.

Share Article:

Read another article...

OKA Launch FB
Newyddion
Only Kids Aloud 2024 – Ymgeisiwch Nawr!
370080627_1019812509229526_559886859850287902_n
Newyddion
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn cefnogi creu cerddoriaeth yn y Rhyl!
4 November 2023 - Royal British Legion
Wales Festival of Remembrance, Cardiff
Newyddion
Dathlu chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl!
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.