Ar ddydd Sadwrn yr 2il o Fehefin, cafodd bron i 100 o’n bechgyn o bob cwr o Gymru y cyfle anhygoel a chyffrous o gefnogi Alfie Boe yn ei gyngerdd arbennig yn Stadiwm Highbury, Fleetwood. Nid oedd y bechgyn erioed wedi perfformio yn Swydd Gaerhirfryn o’r blaen ac nid oedd llawer ohonynt wedi perfformio mewn stadiwm o’r blaen chwaith. Roedd bron i 9,000 o bobl yn y gynulleidfa ac yn ffodus arhosodd y tywydd yn sych!!
Roedd gan y bechgyn o’r de ddechrau cynnar o 7.30am ac ar ôl taith bws hir, roeddynt yn falch o gyrraedd Fleetwood. Pwy oedd un o’r pobl cyntaf y gwnaethon nhw gwrdd? Neb llai na Alfie Boe ei hun! Roedd wedi dod yn arbennig i’r ardal gefn llwyfan i siarad â’r bechgyn ac roedd yn ddigon caredig i aros i dynnu (llawer!) o selfies gyda’r bechgyn!
Ar ôl soundcheck, tamaid i fwyta a newid i’w gwisgoedd OBA, dechreuodd y bechgyn giwio i fyny yn eu llinellau. Cerddodd y bechgyn allan i’r llwyfan i fôr o bobl a chymeradwyaeth enfawr a chychwyn ar eu set hanner awr. Roedd yn anhygoel i wylio pobl yn canu gyda nhw a gweld ychydig o faneri Cymreig yn hedfan yn y gynulleidfa!
Ar ôl eu perfformiad roedd hi’n amser gadael oherwydd mai Alfie Boe ei hun oedd ar y llwyfan nesaf. Amser ar gyfer y daith bws hir adref … a byrger yn y Gwasanaethau, wrth gwrs!