Cynhaliwyd Cymru 1000 yn rhan o Ŵyl Leisiol Caerdydd. Dyma oedd fy nigwyddiad cyntaf lle daeth Only Boys Aloud y Gogledd ac Only Boys Aloud y De ynghyd fel un grŵp mawr, ac roedd o’n un o’r profiadau gorau a gefais erioed! Roedd yn rhaid gadael y Rhyl am 7am, ond roedd hi’n werth gorfod codi’n gynnar! Arhosodd y criw yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Aethom i Neuadd Dewi Sant i gael ymarfer technegol, ac roedd pawb yn dechrau teimlo’n gyffrous. Ar ôl cael bwyd ym mwyty Amser, roedd hi’n bryd inni berfformio! Aethom i’n llefydd ar y llwyfan, ac roedd seddau’r gynulleidfa’n llenwi. Ar ôl wythnosau ac wythnosau o ymarfer, roedd hi’n bryd inni berfformio o’r diwedd! Canodd y côr Calon Lân, Gŵyr Harlech, Gwinllan a Roddwyd i’m Gofal, Sosban Fach, a’i berfformiad cyntaf o ‘In Musico Modulamine’ a ysgrifennwyd gan Karl Jenkins. Gydag Only Boys Aloud y Gogledd a’r De, yr Academi, Côr Godre’r Aran, Côr Meibion Pontarddulais a’r Côr Undebol ar ôl Tri yn cyd-ganu, roedd y sain yn wych, a’r gerddorfa, Sinfonia Cymru, yn rhagorol! Roedd y perfformiad cyfan yn benigamp, ac roedd hi’n ddiwrnod bythgofiadwy, a mwynheais bob eiliad ohono!
Gethin, OBA Y Rhyl