Cylchlythyr y Gwanwyn 2021

Newyddion

Daw eto haul ar fryn…

Ni allaf gredu fy mod yn dal i eistedd wrth fy nesg gartref yn ysgrifennu hwn. Dyma’r pedwerydd cylchlythyr rydyn ni wedi’i baratoi o bell ers i’r cyfnod clo gyntaf ddechrau dros flwyddyn yn ôl. Serch hynny, mae’n teimlo fel ein bod ni wedi cyrraedd trobwynt y Gwanwyn hwn. Er bod ein calendr yn Elusen Aloud wedi aros yn rhyfeddol o llawn trwy gydol 2020, rydym mor gyffrous ein bod yn cynllunio ymarferion eto ar gyfer ein haelodau.

Canu oedd un o’r gweithgareddau cyntaf i gael ei wahardd yn y DU, ac mae wedi bod yn un o’r olaf i ddychwelyd. Ond o’r diwedd rydym wedi cael caniatâd i drefnu ymarferion awyr agored ar gyfer aelodau Only Boys Aloud yr haf hwn! Bydd cyfyngiadau wrth gwrs, ond byddwn gyda’n gilydd. Pwy a ŵyr, efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu eich croesawu yn ôl fel cynulleidfaoedd yn fuan. Rydyn ni wedi eich colli chi i gyd gymaint.

Mae gennym lawer i edrych ymlaen ato.

Yn y cyfamser, dyma ychydig o straeon o newyddion da i chi eu mwynhau (mae yna cryn dipyn mewn gwirionedd – rydyn ni wedi bod yn griw prysur!).

Gyda chariad mawr,
Hannah a Tîm Aloud x

Helo! Dyma’n Newyddion Diweddaraf

#1 Yn cyflwyno ‘Aloud in Conversation’

Mae’r prosiect newydd hwn yn un o’n mentrau newydd yn ystod y cyfnod clo i roi rhywbeth gwahanol a gwreiddiol i aelodau Only Boys Aloud i wrando arno. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig cynnig amrywiaeth yn ein hymarferion wythnosol, ac mae ein cyfres Aloud in Conversation yn ategu’r ethos hwn yn berffaith.

Tua unwaith y mis trwy 2021, rydym yn cynnal cyfweliadau byw awr o hyd gyda gwesteion hynod o ddiddorol ac ysbrydoledig, gan gynnwys ein Llysgennad Ieuenctid Callum Scott Howells, cyd-gyn-aelod OBA Tom Hier, a’n Llysgenhadon Syr Bryn Terfel a Rebecca Evans.

Mae ein siaradwyr a ddewiswyd yn ofalus yn fodelau rôl gwych i’n haelodau ifanc, ac maent wedi darparu mewnwelediad diddorol i ni i’w plentyndod, eu profiadau o fod yn OBA, a’u gyrfaoedd heddiw.

Yn y tair pennod gyntaf fe wnaethon ni ddarganfod sut beth yw dawnsio yn y West End, uchafbwyntiau bod yn Lywydd Undeb Myfyrwyr, a sut roedd yn teimlo i ganu yn Rownd Derfynol BGT!

Hyd yn hyn rydym wedi cynnal 4 sesiwn ac yn edrych ymlaen at y nesaf!

#2 Prosiect Canu Japan

Yng Ngwanwyn 2020, roedd Only Boys Aloud yn paratoi i deithio i Japan i berfformio yn dilyn partneriaeth newydd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Y British Council a Llywodraeth Japan.

Er i’r daith gael ei chanslo, roeddem yn benderfynol o gadw’r prosiect canu yn fyw. Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan mewn prosiect corawl rhithiol gyda thri chôr 6000 milltir i ffwrdd yn Kitakyushu, Kumamoto ac Oita.

Gallwch wylio’r fideo isod neu ewch i wefan y BBC yma.

Cymerodd bechgyn o OBA ran yn yr ymarferion wythnosol gyda’r corau yn Japan a ddysgodd y gân Gymraeg enwog ‘Calon Lân’, a addysgwyd gan ein Harweinwyr Corawl gwych.

Yn y sesiwn rannu derfynol, perfformiodd côr OBA y clasur Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.

Roeddem mor falch bod y prosiect rhannu diwylliannol a chelfyddydol hwn wedi medru cymryd lle. Edrychwn ymlaen at weld y bartneriaeth hon yn datblygu a chroesi bysedd am daith i Japan yn fuan!

Only Boys Aloud performing Anfonaf Angel – あなたに天使を as part of the project

#3 Aelodau newydd Aloud!

Yn gyntaf, rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein Prif Weithredwr newydd, Carys Wynne Morgan. Cawsom faes o ymgeiswyr anhygoel o gryf a disgleiriodd Carys! Meddai Carys “Dwi wrth fy modd fy mod yn cymryd y rôl yma ar gyfnod mor allweddol i’r sector celfyddydol yng Nghymru. Mae amcanion Elusen Aloud yn agos iawn at fy nghalon, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac mae ymuno gyda’r tîm, a’i harwain i’r cam nesaf yn eu siwrne, yn rhywbeth cyffrous iawn i fi”. Rydym yn edrych ymlaen at weld Carys yn cychwyn yn ddiweddarach eleni. Darllenwch fwy yma.

Yn ail, hoffem groesawi yn swyddogol Cadeirydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, Ian Rees, i’r tîm. Dechreuodd Ian gydag Aloud ym mis Chwefror, ac mae wedi bod yn brysur yn dod i adnabod y tîm. Dywedodd Ian “Mae cerddoriaeth gorawl yn golygu llawer iawn i mi ac rwyf wedi ymrwymo i weithio i barhau i ddarparu profiadau cerddorol, a phrofiadau bywyd, i’r cantorion ifanc sy’n elwa o waith Aloud.” Darllenwch fwy yma.

Ac yn olaf, roeddem wrth ein boddau pan gytunodd Syr Bryn Terfel i gynrychioli Aloud fel ein Llysgennad diweddaraf! Mae Syr Bryn yn enillydd gwobrau Grammy, Brit Clasurol a Gramophone ac yn fas-bariton Cymreig byd enwog ac wedi perfformio yn rhai o dai opera a neuaddau cyngerdd mwyaf adnabyddus y byd. Darllenwch fwy yn ein blog yma.

#4 Everyone Aloud!

Eleni, i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ar y 1af o Fawrth, fe benderfynon ni wneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Pa ffordd well o ddathlu na chreu côr enfawr i ganu rhai o ganeuon mwyaf adnabyddus Cymru gyda’r canwr byd enwog Syr Bryn Terfel (ein Llysgennad newydd!)?

Gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd i ymuno â ni ar gyfer ein côr torfol rhithiol cyntaf, wrth i ni berfformio’r gân werin draddodiadol ‘Sospan Fach’ a chlasuron Max Boyce ‘Up & Under’ a ‘Hymns & Arias’.

Roeddem wrth ein boddau i dderbyn 100 fideo o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys UDA, Japan a’r Iseldiroedd!

Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran yn y prosiect arbennig hwn.

Gallwch weld y perfformiad terfynol yma:

#5 Bydis Codi Arian!

Rydyn ni mor gyffrous ein bod ni wedi cael llu o fentrau codi arian cymunedol yn ddiweddar – mae’n rhaid bod y tywydd heulog yn ddiweddar wedi rhoi’r egni i chi!

Yn gyntaf roedd Rhys, a greodd ei lwybr 26 milltir ei hun o amgylch Caerdydd i godi arian ar gyfer Aloud! Nid oedd erioed wedi rhedeg marathon o’r blaen ac mae wedi torri ei darged codi arian yn llwyr, gan godi dros £500 ar gyfer ein gwaith.

Yna cawsom Samuel, a brofodd ei ffitrwydd gyda 4 her ffitrwydd dros 4 diwrnod – 100 ‘sit-up’, ymwthiadau, sgwatiau a dringfeydd grisiau! (Mae’n edrych yn debyg bod ei frawd bach hefyd wedi cymryd rhan yn yr her wrth edrych ar y llun hwn … ciwt iawn.) Cododd Sam £110 arbennig i Aloud – cyflawniad gwych.

Llongyfarchiadau enfawr i chi’ch dau a diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i godi arian ar gyfer Aloud, anfonwch e-bost ataf i neu darllenwch ein blog i gael syniadau a chyngor ar sut i sefydlu eich digwyddiad eich hun.

Cefnogi Elusen Aloud

Rydym mor ddiolchgar i’n ffrindiau, cyllidwyr a chefnogwyr o bob cwr o’r byd sy’n parhau i’n cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn. Mae gwybod eich bod wrth ein hochr wedi rhoi’r penderfyniad i ni ddod allan o’r pandemig hwn gyda mwy o angerdd ac uchelgais nag erioed o’r blaen.

Os ydych wedi mwynhau gwrando ar ein perfformiadau ar-lein a darllen am ein gweithgareddau yn ystod y cyfnod clo, ystyriwch roi rhodd reolaidd neu ymuno â’n Cynllun Aelodaeth Calon. Mae rhodd o unrhyw faint yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut y gallwn ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru.

I gael sgwrs anffurfiol am sut y gallech gefnogi Elusen Aloud a’n prosiectau, cysylltwch â [email protected] neu ewch i’n gwefan.

Dyma rai ffyrdd eraill y gallech helpu:

Tan y tro nesaf…

Diolch yn fawr bawb x

Share Article:

Read another article...

Why I give to Aloud series headers (2)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Ade
Why I give to Aloud series headers (3)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Pat
Why I give to Aloud series headers (1)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Sara
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.