Cyfle i ymuno â chorau Only Boys Aloud yng ngorllewin Cymru

Newyddion

Mae’r Elusen Aloud yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’u corau Only Boys Aloud yng ngorllewin Cymru.

Mae Only Boys Aloud yn rhaglen o ymarferion corawl am ddim ar gyfer bechgyn rhwng 11-19 oed o gymunedau ledled Cymru. Fel rhan o ymrwymiad Elusen Aloud i chwalu rhwystrau rhag mynd i fyd cerddoriaeth, nid oes clyweliad ac mae’n rhad ac am ddim.

Bydd pobl ifanc yng ngorllewin Cymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymarferion wythnosol yn:

  • Aberteifi | Dydd Llun, Castell Aberteifi, 6.30pm-8.30pm
  • Hwlffordd | Dydd Iau, Vision Arts, 6.30pm-8.30pm
  • Aberystwyth | Dydd Iau, Arad Goch, 6:00pm-8:00pm

Mae tîm o Arweinwyr Côr Proffesiynol profiadol ac Arweinwyr Cymunedol (Gwirfoddolwyr o’r gymuned leol) yn darparu ymarferion.

Mae ymarferion wythnosol Only Boys Aloud yn cynnwys cyfres o gemau a gweithgareddau cynhesu ac yna adran o ddysgu cerddoriaeth gan gynnwys cerddoriaeth gorawl draddodiadol Gymreig a thraciau theatr gerdd i ddilyn. Mae bechgyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau tîm, yn dysgu ystod o repertoire, ac yn meithrin cyfeillgarwch oes â’u cyd-aelodau o’r côr.

“I think the main thing that stood out for me is how inclusive it is for everyone. And even though I hated my singing voice (and at times still do) and wasn’t very confident about it, it’s as if someone is just sat there saying: ‘I don’t mind how good or bad you sing, just come along to it. Have fun, socialise, and enjoy it’, rather than seeing it as a thing you have to be good at to join.”

Aelod gorllewin Cymru Only Boys Aloud
Gorllewin Cymru

Rhan fawr a chyffrous o Only Boys Aloud yw’r cyfleoedd perfformio. Mae Elusen Aloud yn darparu trafnidiaeth am ddim i fechgyn gymryd rhan mewn digwyddiadau a gynhelir y tu hwnt i’w hardal eu hunain.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd ein cyfranogwyr Only Boys Aloud gorllewin Cymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys perfformiad yng Nghastell Aberteifi ochr yn ochr ag Only Men Aloud ar 14 Gorffennaf.

Yn dilyn cefnogaeth gan Bluestone Foundation a Chyngor Celfyddydau Cymru, ym mis Medi 2021, lansiodd Elusen Aloud 3 chôr Only Boys Aloud newydd yng ngorllewin Cymru.

Roedd hyn mewn ymateb i effeithiau’r pandemig Covid-19 i ddarparu gweithgareddau i wella llesiant meddyliol a hunan-hyder pobl ifanc ar ôl y cyfnod clo ac ehangu buddion rhaglen gôr lwyddiannus Only Boys Aloud ar gyfer pobl ifanc yng ngorllewin Cymru.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen cafodd aelodau Only Boys Aloud yng ngorllewin Cymru y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o berfformiadau a phrofiadau gan gynnwys:

  • Recordiad ar-lein o A Song For Wales, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Only Boys Aloud gan yr ennillydd Grammy, Amy Wadge a Sylfaenydd Aloud, Tim Rhys Evans.
  • Perfformiad yn Eisteddfod yr Urdd (Sir Ddinbych)
  • Perfformiad yn y Serendome yn Bluestone Resort
  • Perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Tregaron)
  • 2 berfformiad (Caerdydd a’r Rhyl) yng nghyngherddau 10fed pen-blwydd yr Elusen Aloud
  • Recordio 3 cân ar yr albwm 2022, GEN Z.

"Our first Only Boys Aloud West full rehearsal was brilliant because we sounded AMAZING today! Everyone was into singing but also loads love rugby like me. I can’t wait for us all to sing together again"

Aelod gorllewin Cymru Only Boys Aloud
Gorllewin Cymru

Ym mis Chwefror 2023, croesawodd Elusen Aloud Beth Jenkins fel ein Rheolwr Prosiect Only Boys Aloud newydd yng ngorllewin Cymru. Mae Beth wedi bod yn brysur yn cysylltu â sefydliadau lleol i helpu i ledaenu’r neges am Only Boys Aloud ochr yn ochr â chynllunio rhaglen o ymarferion, gweithdai a digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc. Mae Beth hefyd wedi bod yn trefnu cyfres o ymarferion agored ar gyfer ein corau gorllewin Cymru lle bydd pobl ifanc sydd â diddordeb mewn ymuno â’u côr lleol yn cael y cyfle i gwrdd ag aelodau eraill a phrofi ymarfer.

In the short time that I have been in post I’ve already seen first-hand the impact choral singing can have on young people and I’m really looking forward to spreading the word throughout West Wales and providing the boys with an incredible calendar of performances throughout the year. If you are thinking about joining Only Boys Aloud I would say, come and give it a go, meet the choir leaders in your area and get to know the boys. Beth Jenkins, Rheolr Prosiect: Gorllewin Cymru.

Os ydych chi’n adnabod person ifanc sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd, profi ystod o gyfleoedd cyffrous, a datblygu sgiliau newydd cysylltwch â’n Rheolwr Prosiect yng ngorllewin Cymru, Beth Jenkins: [email protected]

Mae Elusen Aloud bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ac Arweinwyr Corau newydd i gefnogi darpariaeth ein rhaglen gorau. Cysylltwch â ni drwy [email protected] am fwy o fanylion.

Share Article:

Read another article...

Why I give to Aloud series headers (2)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Ade
Why I give to Aloud series headers (3)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Pat
Why I give to Aloud series headers (1)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Sara
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.