Rydym yn hynod falch o allu cyhoeddi penodiad Cyfarwyddwr Creadigol newydd – Craig Yates. Mae Craig wedi bod yn rhan annatod o’r elusen ers ei sefydlu. Gan ddechrau fel aelod o Only Men Aloud, mae Craig wedi helpu siapio a datblygu’r elusen fel ein bod nawr yn gweithio gyda bechgyn, plant a merched ar draws Cymru.
Cefndir Craig… 
Ganwyd a magwyd Craig ym Mirmingham a symudodd i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle enillodd BA mewn Cerddoriaeth a rhagoriaeth yn ei ddiploma ôl-radd mewn Canu. Parhaodd ei hyfforddiant yn academi byd-enwog i gantorion ifanc Mariinsky yn St. Petersburg, Rwsia.
Mae’n aelod allweddol o’r grŵp lleisiol Cymraeg, Only Men Aloud, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd. Daethant i’r brig ar Last Choir Standing ar y BBC, ennill Gwobr Brit Clasurol am yr albwm gorau, canu yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, a pherfformio ar deithiau o amgylch y byd.
Arwain yn ystod y Clo Mawr…
Yn ystod cyfnodau clo, gwnaethom yn siŵr ein bod yn parhau i gefnogi ein haelodau a’n cefnogwyr drwy ddatblygu ein presenoldeb ar y ŵe a darparu ymarferion rhithiol wythnosol i’n holl haelodau. Bu Craig yn brysur yn creu nifer o fideos Youtube i ddiddanu’r genedl, gan gynnwys Everyone Aloud ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y côr rhithiol anferth yma yn cynnwys dros 100 aelod, alwmni a chefnogwyr o bob cwr o’r byd gan gynnwys yr UDA, Japan a’r Iseldiroedd yn dod at ei gilydd i ganu gyda Syr Bryn Terfel.
Diolch i Craig, roedd ein cyngherddau Nadolig rhithiol yn lwyddiant hefyd. Mae’n cyngerddau Nadolig blynyddol bob tro’n boblogaidd, a nid oedd cyfyngiadau Covid-19 yn mynd i’n hatal rhag dathlu’r ŵyl. Paratodd Craig gyngherddau Aloud rhithiol a oedd yn cynnwys perfformiadau gan Only Boys Aloud ac ymddangosiadau gan rai o’n llysgenhadon, gan gynnwys Matthew Rhys, Amy Wadge a Callum Howells. Gyda’r ddau gyngerdd yn denu dros 15,000 o wylwyr, pwysleisiodd ein cefnogwyr pa mor hyfryd oedd y cyngherddau a sut y cafwyd eu cysuro ar ôl blynyddoedd mor anodd.
Ar ôl cynnal ymarferion yn rhithiol am bron i ddwy flynedd, rydym yn hynod falch o fod yn ôl yn ymarfer yn fyw ac yn perfformio ar lwyfan unwaith eto.
Dywedodd Jon Llewelyn, cyn-aelod OBA:
“Mae Craig fel cawr addfwyn sydd bob tro yn eich gweld ac yn rhoi amser i chi, rhinwedd bwysig iawn i mi a’r bechgyn eraill oedd yn rhan o’r côr.”
Y dyfodol…
Dywedodd Craig:
“Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi fel Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud. Gan i mi fod yn ymwneud ag Aloud ers dechrau Only Boys Aloud, rwyf yn falch iawn o bopeth yr ydym wedi ei wneud dros y blynyddoedd, gan weithio gyda miloedd o gantorion ar draws Cymru. Mae sicrhau bod pobl ifanc yn ymwneud â’r celfyddydau yn bwysicach nac erioed heddiw, ac rwy’n edrych ymlaen i arwain Elusen Aloud i’r bennod nesaf.”
Yn dathlu 10 oed eleni fel elusen, mae gennym lawer i edrych ymlaen ato. Mae’n halbwm newydd ar ganol cael ei recordio a fydd yn arddangos lleisiau hyfryd Only Boys Aloud, Academi Only Boys Aloud, Only Kids Aloud a Merched Aloud Girls. Uchafbwynt ein blwyddyn fydd ein cyngherddau Dathlu 10 oed yn Rhyl a Chaerdydd, sef y tro cyntaf y bydd yr holl gorau yn perfformio gyda’i gilydd ar yr un llwyfan.
Rydym ar ben ein digon bod ein henw a’n dylanwad yn parhau i fod yn gryf 10 mlynedd yn ddiweddarach, sy’n adlewyrchiad o lwyddiant Craig fel Cyfarwyddwr Creadigol ac yn sicrhau bod pobl ifanc ar draws Cymru â’r cyfle i ganu, berfformio a mwynhau.