Sara-Alis ydw i: yn wreiddiol o Ogledd Cymru rwyf bellach yn byw yn Llundain. Gyda gradd BA dosbarth cyntaf o Brifysgol Caerdydd yn ogystal â MA diweddar mewn Rheolaeth Gelfyddydol a Diwylliannol o Goleg y Brenin Llundain, rwyf ar ben fy nigon o gael ymuno â thîm Aloud!
Ar ôl cwblhau fy ngradd BA yn 2018 cefais fy newis i ymuno â chynllun Interniaid Creadigol Arts & Business Cymru. Yn ystod yr interniaeth chwe mis hwn, gweithiais fel codwr arian dan hyfforddiant a oedd yn cynnwys ysgrifennu ceisiadau cyllid, datblygu perthnasau gyda rhoddwyr a chyfathrebu digidol. Buan y sylweddolais mai gweithio o fewn y maes datblygu’r celfyddydau oedd y rôl ddelfrydol ar fy nghyfer i ac arhosais yn fy rôl fel Swyddog Codi Arian am bron i ddwy flynedd.
Yn 2020 penderfynais ddilyn cwrs meistr mewn Rheolaeth Gelfyddydol a Diwylliannol yn Llundain. Roedd y cwrs hwn yn gam allweddol o fewn fy natblygiad proffesiynol ac yn gyfle i mi gryfhau fy sgiliau, ehangu fy ngwybodaeth am y sector gelfyddydol yn y DU a chrisialu fy angerdd tuag at y celfyddydau. A minnau newydd orffen y cwrs, rwyf nawr yn edrych ymlaen i ddefnyddio’r wybodaeth yma ac ail-afael ar ddatblygu’r celfyddydau gyda sefydliad mor ysbrydoledig ag Aloud.
Fel aelod o gôr ieuenctid Cymraeg am dros ddeng mlynedd, rwy’n ymwybodol o botensial trawsffurfiol cerddoriaeth. Rwyf hefyd yn mynd i wahanol gigiau mor aml â phosib a rwyf wrth fy modd yn profi cerddoriaeth byw yng Nghaerdydd a Llundain. Mae ymrwymiad Aloud tuag at hygyrchedd yn y celfyddydau hefyd yn bwysig iawn i mi; roedd fy nhraethawd MA diweddar yn archwilio cynrychiolaeth gyfartal yn y sector gelfyddydol. Roedd ymuno ag Aloud fel Ysgrifennwr Ceisiadau a Chynnwys felly yn teimlo fel dewis naturiol i mi a rwy’n edrych ymlaen i ddechrau chwarae rhan ymarferol yn gwireddu gwaith trawsffurfiol Aloud.