CORWS ONLY KIDS ALOUD CWRS PRESWYL HAF

OKA

Y mis hwn, disgynnodd 90 aelod o’n Corws Only Kids Aloud ar Wersyll yr Urdd, Glan Llyn ar gyfer eu cwrs preswyl Haf. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig Tim Rhys-Evans MBE, cyflwynwyd y plant i ystod eang o gerddoriaeath gan gynnwys Spirit of Hope gan Paul Mealor a chân werin o Malaysia, Wau Bulan, ynghyd â rhywfaint o symudiadau braich cymhleth! Yn ystod cyfnodau egwyl o’r ymarferion, mwynhaodd y Corws ardal hyfryd Llyn Tegid, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau megis canŵio, caiacio ac adeiladu rafftiau a chawsant hyd yn oed eu disgo personol eu hunain!

Dyma beth sydd gan aelod OKA Kaveh ei ddweud am ei amser gyda’r Corws hyd yn hyn …

Nid canu yn unig yw Only Kids Aloud. Mae’n ymwneud â chyfeillgarwch, cerddoriaeth, cyffro a hwyl (llawer ohono)! Rydyn ni’n cael teithio i lefydd gwych, canu, ymarfer a pherfformio gyda chriw gwych o bobl, wrth gael hwyl. I mi yn bersonol mae hefyd fel cael teulu oddi cartref; gyda grŵp mor amrywiol o bobl o bob rhan o Gymru sydd i gyd yn barod i weithio’n galed i wneud yr hyn maen nhw wrth eu boddau i wneud fwyaf – canu! Mae canu gyda’r corws yn hynod werth chweil ac rwy’n mwynhau pob eiliad. Rwy’n gweithio’n galed i ddysgu’r gerddoriaeth gartref a bob amser yn edrych ymlaen at yr ymarfer rhanbarthol neu preswyl nesaf. Rwy’n cael amser anhygoel fel aelod o gorws OKA 2019-2020 ac edrychaf ymlaen at wneud llawer mwy o atgofion yn y dyfodol.

Ac mae Gwen yn mynd â ni trwy ei dyddiadur Glan Llyn…

Dydd Llun 12fed Awst – Mae fy nerfau’n dechrau chwarae hafoc yn fy mol wrth ddisgwyl, ond diflannon nhw’n fuan pan wnes i daro i mewn i’m ffrind a wnes i ar y cwrs preswyl gyntaf o Only Kids Aloud. Hedfanodd y siwrnai 3 awr ar ôl dal i fyny â hi a chanu. Dechreuodd yr ymarferion bron yn syth, gyda chynhesu hwyliog ac ymarfer canu ‘The Greatest Showman medley’, ‘Wau Bulan’ (cân werin o Malaysia), ‘Sanakam’ (cân werin o Latfia) ac yn olaf ‘Spirit of Hope’.

Fy hoff gân yw’r Greatest Showman Medley gan ei bod yn gyfarwydd ar ôl gwylio’r ffilm yn ddiddiwedd a’i pherfformio. Er fy mod wedi cael hyfforddiant proffesiynol gan dîm Only Kids Aloud, rwy’n teimlo bod fy llais wedi gwella’n aruthrol. Dwi hefyd wrth fy modd yn canu Wau Bulan gan fy mod i’n mwynhau canu mewn gwahanol ieithoedd a dysgu symudiadau.

Dydd Mawrth 13eg Awst – Ynghyd â mwy o ymarferion cawsom gyfle i fwynhau rhai o’r gweithgareddau yng Nglan Llyn. Roedd hyn yn cynnwys cystadleuaeth y cychod rhwyfo cyflymaf ar Lyn Bala, cystadleuaeth Fflicio Gwallt L’Oreal a gêm o ‘ceisio peidio â chwympo mewn i’r llyn’. Roedd yn gymaint o hwyl.

Dydd Mercher 14eg Awst – Pacio’n bagiau yn gyflym, brecwast ac ymarfer hyd at amser cinio cyn ein perfformiad byr i’n rhieni cyn i ni ddychwelyd adref.

Cadwch lygad ar aloud.cymru/kids a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael manylion perfformiadau a chlyweliadau yn y dyfodol neu cysylltwch ag [email protected] i gael mwy o wybodaeth.

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.