Dewch i brofi Merched Aloud – Canu, gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o gymuned sy’n tyfu.
Diolch i gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi prosiect peilot 12 sesiwn ar gyfer merched 11-16 oed.
Bydd sesiwn gyntaf ‘Merched Aloud’ yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd a bydd yn rhedeg unwaith y mis ar gyfer 12 ymarfer.
- Dewch i ymuno â’r sesiwn flasu ar fore Sadwrn 16 Hydref
- Bydd sesiynau’n cael eu cynnal mewn lleoliad yng nghanol Caerdydd
- Dim clyweliadau – dim ffioedd
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y sesiwn blasu: [email protected]