Ar ddydd Mercher 28 Medi, cefais y fraint o gyfarfod â Thywysog Edward ar ôl perfformio ar gyfer dathliadau pen-blwydd diemwnt Gwobr Dug Caeredin yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd yn noson wych ac roeddwn yng nghanol enwogion megis Alun Wyn Jones, y gyflwynwraig Eleri Siôn a chyfarwyddwyr rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r DU.
Yn ystod y noson, perfformiwyd tair cân ar gyfer y gwesteion yn cynnwys Calon Lân. Fe wnaeth Tim Rhys-Evans, ein Cyfarwyddwr Artistig, arwain y gwesteion mewn gweithdy canu, ac roedd rhaid i ni, fel aelodau OBA, helpu’r gwesteion gan gynnwys Alun Wyn Jones mewn ymarferion lleisiol go gymhleth. Roedd y gweithdy yn llawer o hwyl ac roedd dros 40 o westeion yn cymryd rhan yn frwd yn yr ymarferion lleisiol. O anthemau i ganeuon Zulu, roedd y gweithdy yn amrywiol ac unigryw a pherfformiwyd y darn gorffenedig sef cân Zulu mewn wyth rhan i’r Tywysog.
Ar ôl y perfformiad o ganeuon y gweithdy, a oedd wrth fodd y Tywysog, daeth y Tywysog i siarad a diolch i ni fel aelodau Only Boys Aloud am ein perfformiad. Roeddwn yn lwcus iawn i gael siarad gyda’r Tywysog a oedd yn eiddgar i ddarganfod os oedd gweithdai canu yn ddigwyddiad aml i OBA!
Daniel, OBA Caerffili
Llun o’r Senedd