Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant

Newyddion

Beth sydd gan bêl-droed a chanu yn gyffredin? Llawer iawn mwy nag y byddech yn ei feddwl!

Gwaith tîm, cyfeillgarwch, disgyblaeth, angerdd, mae gan y teulu Roberts y rhain i gyd a digonedd ohonynt.

Dewch i gwrdd â Josh, Tom, Joseph a Sam. Yn aelodau balch o gôr Only Boys Aloud Wrecsam ac yn chwaraewyr i dimau pêl-droed lleol Borras Park Albion a Hope Dragons, mae’r bechgyn wedi profi manteision y ddau yn uniongyrchol ar eu llwybrau i lwyddiant.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae bechgyn y teulu Roberts wedi cymryd rhan yn eu côr Only Boys Aloud lleol yn Wrecsam.

Dywedodd eu tad, David Roberts, “Mae’r profiadau a gafodd y bechgyn yn gwbl anhygoel. Cawsant berfformio yn Disneyland; cwrdd â Katherine Jenkins; a pherfformio yn Nhai’r Senedd. Rydym wedi byw yn Wrecsam ar hyd ein hoes ac ni ddaethom ar draws gweithgaredd o’r blaen lle maent wedi dysgu cymaint, creu gymaint o atgofion, a chael cyfleoedd mor wych”

Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn actio a theatr gerdd o Royal Central, mae’r hynaf, Josh ar fin dilyn gyrfa fel perfformiwr.

“Mae’r ffocws a’r brwdfrydedd y mae Only Boys Aloud wedi’u meithrin yn Josh wedi cael dylanwad mor dda arno fel unigolyn ac wedi llunio’i lwybr. Rydym hefyd yn gefnogwyr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam ac yn ddeiliaid tocyn tymor. Ochr yn ochr ag Only Boys Aloud, mae Josh wastad wedi bod yn weithgar mewn pêl-droed lleol a pharhaodd â hynny drwy gydol ei amser yn y brifysgol lle bu’n hyfforddi ei dîm. Mae’n enghraifft glir o sut mae modd i chi fod ynghlwm â phêl-droed a’r celfyddydau a’r holl fuddion a ddaw ohonynt”.

Mae’r ail fab, Tom, hefyd yn dilyn llwybr creadigol. Ar ôl ennill gradd 2:1 mewn ysgrifennu comedi o Brifysgol Salford a mynd â’i gwmni, Glass Crumpet i’r ŵyl Edinburgh Fringe yn ddiweddar, nid yw Tom yn ofni sefyll ar ganol y llwyfan.

Dywedodd eu tad, David Roberts, “Mae’r hyder y mae Only Boys Aloud wedi’i roi i’r bechgyn yn anhygoel. Mae wedi eu helpu i sylweddoli nad oes rhaid iddynt fod fel pawb arall”.

Josh Roberts
Tom Roberts

Trydydd mab y teulu Roberts yw Joseph sy’n 15 oed ac yn aelod o Only Boys Aloud yn Wrecsam ar hyn o bryd.

“Fel athro, rwy’n gweld y pwysau sydd ar ysgwyddau ein pobl ifanc heddiw. Mwy o bethau i ddenu eu sylw, mwy o fwlio, poeni mwy am y cyfryngau cymdeithasol, straen arholiadau. Mae Only Boys Aloud yn caniatáu lle i Joseph gael hwyl gyda’i ffrindiau.”

“Mae Joseph hefyd yn gôl-geidwad i Borras Park Albion. Pan oedd gwrthdaro rhwng gweithgareddau pêl-droed ac Only Boys Aloud roedd yn benderfynol y byddai’n ymdopi â’r ddau. Mae’n ymroddgar ac yn rhannu ei amser.”

Mae Sam, yr ieuengaf, yn ysu am gael dilyn olion traed ei frodyr ac ymuno ag Only Boys Aloud ond nid yw’n ddigon hen eto!

Dywedodd eu mam, “Roedd Sam wedi gwirioni ei fod wedi cael ei dderbyn ar raglen côr Only Kids Aloud eleni ac mae wedi mwynhau’r holl deithiau preswyl ar hyd a lled Cymru. Bydd yn ddigon hen cyn bo hir i ymuno ag Only Boys Aloud ac elwa o’r profiadau anhygoel mae ei frodyr yn eu cael.”

Nid côr yn unig yw Only Boys Aloud, mae’n llawer iawn mwy na hynny

David Roberts

Mae’r bechgyn wastad wedi cydbwyso Only Boys Aloud gyda gweithgareddau lleol eraill gan gynnwys cefnogi tîm pêl-droed Wrecsam gyda’u tocynnau tymor, bod yn aelodau o’r Sgowtiaid, a chymryd rhan mewn grwpiau drama lleol.

Dywedodd eu tad, David, “Mae’n fater o gydbwyso, yn sicr! Mae yna lawer o fynd a dod ond rydym yn canolbwyntio ar y cadarnhaol a’r hyn sydd gennym i ddangos amdano yw bechgyn gwych gyda’u traed yn gadarn ar y ddaear. Mae’n dda gwybod bod y bechgyn allan yn ymgysylltu â’u cymuned leol, rydym yn gwybod lle maen nhw a’u bod yn mwynhau eu hunain gydag unigolion o’r un anian.”

“Nid côr yn unig yw Only Boys Aloud, mae’n llawer iawn mwy na hynny. Mae’r gerddoriaeth yn bwysig, wrth gwrs, ond hefyd yr hwyl maent yn ei gael, y profiadau, yr hyder maent yn ei fagu. Mae’r teithiau’n rhoi cyfle i bobl ifanc gymysgu â phobl o wahanol ardaloedd, magu hyder, rhoi lle iddynt dyfu. Ac mae yna lawer iawn o gefnogaeth cyfoedion. Mae’n deulu go iawn ac yn gymuned ynddo’i hun”.

Mae’r côr Only Boys Aloud yn agored i unrhyw fachgen rhwng 11-19 oed. Nid oes clyweliadau i’r grŵp ac mae’n croesawu pob lefel o brofiad. Mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un. Mae’r grŵp yn cyfarfod ar nos Fawrth ym Mhrifysgol Wrecsam rhwng 18:30-20:30. Os ydych chi’n adnabod person ifanc a hoffai gymryd rhan, cysylltwch: [email protected]

Share Article:

Read another article...

Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
Jess
Newyddion
BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023 - Holi ac Ateb gyda Jess
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.