Nos Sul dechreuom ddathlu ein penblwydd yn 10 oed, a hynny gyda cyngerdd gala anhygoel yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Dechreuodd y noson gyda set swynol gan Only Boys Aloud, a oedd yn cynnwys caneuon clasurol o’u repertoire, fel Sosban Fach a Gwinllan. Ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd Covid-19, roedd yn wych gweld holl aelodau Only Boys Aloud yn ôl gyda’i gilydd ar y llwyfan, gan gynnwys y tri chôr Gorllewin Cymru newydd a lansiwyd ym mis Hydref 2021. Yna daeth Merched Aloud Girls i’r llwyfan ar gyfer eu perfformiad cyntaf. Tan yn ddiweddar, roedd cyfle merched i ymwneud â’r elusen yn dod i ben ar ôl Only Kids Aloud. Yn 2021, ar ôl cynllunio gofalus, roedd yr amser yn iawn a ffurfiwyd côr peilot i ferched ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r grŵp newydd wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda bron i 70 o ferched o bob rhan o Dde Cymru yn dod at ei gilydd i ganu’n fisol. Roedd egni’r ystafell yn drydanol wrth i Ferched Aloud Girls ganu eu halawon hyfryd, gan gynnwys ‘It Means Beautiful‘ o’r sioe gerdd boblogaidd Everybody’s Talking about Jamie. Gyda’r prosiect peilot yn dod i ben y mis hwn, mae’r elusen yn gobeithio sicrhau cymorth ariannol i barhau â’r prosiect hwn ym mis Medi. Croesi bysedd!
Yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, dyma oedd cyfle Only Kids Aloud i ddisgleirio. O ganlyniad i’r pandemig, nid oedd y garfan newydd hon wedi cael cyfle i berfformio’n gyhoeddus cyn nos Sul, ac roedd eu perfformiad carismatig yn ein sicrhau bod y sȋn corawl Gymraeg yn ddiogel am flynyddoedd i ddod. O ystyried pa mor ifanc oedd rhai o’r aelodau, roedd lefel eu proffesiynoldeb ar y llwyfan yn wych. Roedd eu perfformiad disglair o ‘When Children Rule the World’ o Whistle Down the Wind yn arbennig o gofiadwy. Yn y cyngerdd hwn gwelwyd y tri chôr yn perfformio gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Roedd yn cynnwys perfformiad emosiynol o ‘Just Breathe’ a ysgrifennwyd gan lysgennad Aloud ac ennillydd Gwobr Grammy Amy Wadge, yn ogystal â sylfaenydd Elusen Aloud sef Tim Rhys-Evans. Cyfansoddwyd y gân yn arbennig ar gyfer corau Aloud fel rhan o brosiect Sound UK’s Song for Us, gan fyfyrio ar effaith y pandemig ar y sector diwylliannol ac yn ein hatgoffa i gymryd anadl mewn sefyllfaoedd anodd. Gyda’r holl gorau yn dod ynghyd i ganu’r alaw hyfryd, roedd deigryn yn llygad sawl un yn y gynulleidfa. Uchafbwynt arall oedd gweld cyn-fyfyrwyr Aloud yn dychwelyd i’r prif lwyfan i ganu ‘anthem’ Aloud – Calon Lân – ochr yn ochr â holl gyfranogwyr presennol Aloud. Roedd yn dystiolaeth clir o faint o fywydau sydd wedi’u gwella trwy waith yr elusen dros y deng mlynedd diwethaf, a faint sydd wedi mynd yn eu blaenau i wneud pethau gwych. Roedd ein Cyfarwyddwr Creadigol – Craig Yates – wrth ei fodd gyda’r nifer a ddaeth i’r cyngerdd, gan ddweud: “Cawsom noson wych nos Sul yn Neuadd Dewi Sant, yn dathlu 10 mlynedd arbennig o Elusen Aloud. Cyflawnodd y corau waith anhygoel ac roedd y gynulleidfa wrth eu bodd. Roedd yn ddathliad gwirioneddol o ieuenctid a’r gerddoriaeth wych y maen nhw’n ei gynhyrchu. Diolch yn fawr iawn i’r gynulleidfa anhygoel am ein cefnogi. Dydyn ni ddim yn gallu aros i ail-wneud y cyfan unwaith eto yn y Rhyl ymhen ychydig wythnosau.” Am ffordd wych o ddathlu dros ddegawd o dalent, cerddoriaeth a llu o atgofion. Diolch o galon i’n cefnogwyr, ein ffrindiau a’n cyllidwyr, gan gynnwys The Hodge Foundation ac Gaynor Cemlyn Jones Trust am eu cefnogaeth arbennig i’r digwyddiad hwn. Os fethoch chi ddod i’r cyngerdd nos Sul, yna bydd Elusen Aloud yn cynnal ail gyngerdd gala pen-blwydd yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl ar 17 Gorffennaf. Mae tocynnau ar gael o hyd. Prynwch yma. Peidiwch â cholli un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn – fe fydd hi’n noson i’w chofio! Rydym yn derbyn ceisiadau i ymuno â chôr Only Boys Aloud trwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth am ymuno â’r côr cliciwch yma.