Aloud yn Lansio Sesiwn Gydganu ‘Everyone Aloud’ ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

Newyddion

Mae Elusen Aloud yn gwahodd y cyhoedd i fod yn aelodau o Only Boys Aloud am un diwrnod yn unig, gan ymuno â nhw mewn cân i greu un côr rhithwir enfawr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae Aloud yn gofyn i bawb anfon fideos yn recordio eu hunain yn canu cadwyn wedi’i pharatoi o dair cân eiconig o Gymru; fersiwn fer o drefniant Only Boys Aloud o ‘Sosban Fach’ a chaneuon poblogaidd Max Boyce, ‘Up & Under’ a ‘Hymns & Arias’.

Caiff y fideos eu rhoi ynghyd i greu côr cenedlaethol rhithwir a bydd y fideo dathliadol yn cael ei ryddhau ar Ddydd Gŵyl Dewi (1af Mawrth).

Mae’r elusen yn gofyn i bawb gymryd rhan gan eu bod yn chwilio am leisiau dynion, menywod a phlant i ymuno, gan ganu ar ba bynnag draw sydd fwyaf cyfforddus. Mae dwy ran wahanol i’w canu – y dôn a’r harmoni – a gallwch ddewis un o’r rhain, neu’r ddau.

Mae’r elusen wedi lanlwytho canllawiau ar ffurf fideos ar eu sianel YouTube sy’n cynnwys y geiriau â’r sgôr i bob rhan, ac mae eu Cyfarwyddwr Cerdd Dros Dro, Craig Yates, wedi darparu crynodeb o gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan fan yma.

Sefydlwyd Elusen Aloud yn 2012 i roi hwb newydd i’r traddodiad corau meibion yng Nghymru a chreu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc o ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol.

Fel gweddill y byd, mae’r pandemig wedi effeithio ar Aloud, a bu’n rhaid iddyn nhw wneud newidiadau i’r ffordd maen nhw’n gweithio. Maen nhw wedi bod yn cynnal ymarferion a chyngherddau rhithwir ers mis Mawrth 2020, wrth i fwy na 150 o fechgyn ymuno o bob rhan o Gymru bob wythnos.

Medd Rachel Dominy, Prif Weithredwr Aloud, “Rydym ni’n ymwybodol iawn bod angen cymorth ar y bobl ifanc yma, nawr yn fwy nag erioed. Mae angen rhyw synnwyr o normalrwydd, mae angen eu ffrindiau a’u mentoriaid arnyn nhw, ac mae angen cyfleoedd arnyn nhw i fod yn greadigol. Gobeithiwn fod y gweithgarwch rydym ni’n llwyddo i’w gyflawni yn mynd rywfaint o’r ffordd i ddarparu ar gyfer eu hanghenion.”

Nawr maen nhw’n trio dod â gwên, mawr ei hangen, i wynebau ledled y wlad wrth i Everyone Aloud ddod â phobl ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Sut i gymryd rhan:

  1. Gwyliwch y fideos perthnasol ar YouTube:
  1. Gwisgwch eich clustffonau fel mai eich llais chi’n unig sydd i’w glywed, ac nid y trac cefndir na’r lleisiau arweiniol.
  2. Rhowch y sgôr/geiriau yn barod ar un sgrin i’w darllen.
  3. Recordiwch eich hun ar ddyfais wahanol, gan wneud yn siŵr ei fod ar ei ochr (landscape).
  4. Cyflwynwch y fideo gan ddefnyddio’r ddolen http://bit.ly/everyonealoud erbyn hanner nos ar nos Lun 22ain Chwefror.

Os cewch unrhyw drafferth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i [email protected]

Bydd y fideo terfynol, yn dangos Côr Everyone Aloud yn ei gyfanrwydd, yn cael ei ryddhau am hanner dydd (GMT) ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1af Mawrth 2021.

DIWEDD

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Catrin Powney, Effective Communication: [email protected] neu ewch i http://www.aloud.cymru/

Nodiadau i Olygyddion

  1. Sefydlwyd Elusen Aloud yn 2012 i gyflwyno pŵer canu corawl i bob cenhedlaeth newydd o bobl ifanc ledled Cymru, a thrwy’r gweithgarwch hwn, hybu hunan-gred a hunan-hyder, annog dyheadau, adeiladu sgiliau a datblygu synnwyr o gymuned. Credwn fod Aloud yn gwneud cyfraniad unigryw at gynnal ac ailfywiogi tirwedd ddiwylliannol Cymru, ac yn annog cynulleidfaoedd ledled Cymru a’r byd i ymwneud mewn ffyrdd newydd â thraddodiad corawl rhyfeddol Cymru, sy’n sylfaen i’n bodolaeth. Mae Aloud yn cyflawni’r genhadaeth hon drwy weithgarwch ei dwy brif fenter: Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud.
  2. Nid yw Elusen Aloud yn derbyn unrhyw gyllid statudol ac mae’n dibynnu ar gefnogaeth gan Ymddiriedolaethau, Sefydliadau ac unigolion. Ar hyn o bryd, mae’r elusen yn cael ei chefnogi gan nifer o ymddiriedolaethau elusennol, gan gynnwys Sefydliad Hodge, Sefydliad Esmée Fairbairn a Sefydliad Moondance. Rydym yn ddiolchgar am y rhoddion a dderbyniwn gan gyfeillion yn ein Cynllun Aelodaeth Calon a chan gefnogwyr ledled y byd.
Share Article:

Read another article...

Why I give to Aloud series headers (2)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Ade
Why I give to Aloud series headers (3)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Pat
Why I give to Aloud series headers (1)
Newyddion
Wythnos Gwirfoddoli 2023 – Holi ac Ateb gyda Sara
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.