Ar 15 Rhagfyr 2022, cynhaliodd Elusen Aloud ein trydydd cinio Codi Arian Aloud.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a daeth dros 90 o westeion at ei gilydd am noson o adloniant a chodi arian er mwyn sicrhau dyfodol gweithgareddau’r Elusen i drawsnewid bywydau pobl ifanc o ledled Cymru.
Yn ystod y digwyddiad cynhaliwyd raffl gydag amrywiaeth o wobrau hael wedi’u rhoi gan Celtic Manor, Mari Thomas Jewellery, Melin Tregwynt, The Bay Tree Y Bont-faen, Only Men Aloud, The Goodwash Company, Distyllfa Penderyn, a Studio Viva Ladies Fitness.
Hefyd cynhaliwyd Ocsiwn Dawel lle’r oedd gwesteion yn gallu gwneud cynigion am gyfleoedd i ymuno â’n Hacademi OBA ar ei gwrs preswyl blynyddol yng Ngorffennaf 2023 ac ymweliad i Old Castle Hotel yn Llandeilo, cartref i oriel yr euryches, gemydd a dyluniwr cyfoes Mari Thomas. Roedden ni’n falch iawn i groesawu aelodau ein Fforwm Ieuenctid Only Boys Aloud a oedd yn ein cefnogi ni i gynnal y noson.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ni i arddangos ein corau Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud a oedd yn difyrru gwesteion gyda pherfformiadau o amrywiaeth o repertoire gan gynnwys It Means Beautiful, African Noel, a Nadolig Gwyn. Ymunodd gwesteion â’r corau am berfformiad brwd o Hark the Herald.
Y cinio Codi Arian oedd cyfle olaf y corau i berfformio yn 2022 ar ôl rhaglen amrywiol a phrysur o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Roedden ni’n falch bod cyn-aelodau Only Boys Aloud George Curnow a James Sillman yn ymuno â’r digwyddiad i ddifyrru gwesteion drwy’r noson. Cyfeiliodd pianydd David Doidge iddyn nhw.
“The dinner is our opportunity to showcase the work of the charity to our most loyal supporters, providing a chance to raise much needed funds for our work in the beautiful surroundings of the Royal Welsh College of Music and Drama. The evening gave us time to connect with old and new friends, work with Welsh suppliers as well as providing a fun and relaxed evening for those wishing to celebrate together while supporting our work. We are truly grateful to the Hodge Foundation as well as our other supporters for making this event a success this year.” Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr
Mae ein Cinio Codi Arian yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Aloud gyda’r bwriad o godi cymaint o arian â phosib i gefnogi darpariaeth barhaol ein Corau Aloud ledled Cymru. Rydyn ni’n falch i gyhoeddi, diolch i haelioni ein gwesteion, codwyd £20,000 anhygoel yn ystod y noson.
Hoffai Elusen Aloud ddiolch i Hodge Foundation am ei rhodd hael tuag at y noson.