Mae’n bleser gan Aloud rannu canlyniadau astudiaeth fanwl a gomisiynwyd yn 2016 i ddadansoddi budd cymdeithasol rhaglen Only Boys Aloud.
Un o gasgliadau’r adroddiad yw am bob £1 a gaiff ei buddsoddi yn y rhaglen, caiff gwerth £13.27 o fudd cymdeithasol ei gynhyrchu ar gyfer cymunedau lleol.
Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan gwmnïau annibynnol Milestone Tweed a Social Impact Consulting, yn canolbwyntio ar waith Only Boys Aloud drwy gydol 2016/17. Lluniwyd y canlyniadau yn dilyn proses gyfweld gynhwysfawr ag aelodau OBA a’u rhieni.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o fuddion a gododd yn sgil y rhaglen:
- Mae 53% o’r bechgyn bellach yn bwriadu mynd i’r Brifysgol pan nad oeddynt cynt
- Mae 46% o aelodau OBA bellach yn well ar ymdopi â phwysau
- Meddai 21% o’r teuluoedd bod gwelliant yn ansawdd eu bywyd yn y cartref
Meddai un aelod yn ei arddegau wrth dîm yr arolwg “Roedd fy rhieni wedi rhyfeddu fy mod i wedi ymuno (ag Only Boys Aloud). Mae wedi rhoi hwb i fy hyder. Fyddwn i ddim wedi gallu eistedd a siarad gyda chi oni bai am OBA”.
Meddai un arall wrthynt “Rwy’n dueddol o dreulio mwy o oriau wrth fy ngwaith cartref er mwyn ei gael i well safon. Rwy’n credu bod y ffaith ein bod ni’n ymarfer caneuon hyd nes eu bod nhw’n berffaith wedi cael effaith fawr ar hyn”.
Meddai Menna Richards, Cadeirydd Bwrdd Aloud: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr effaith sylweddol mae gwaith Aloud yn ei gael ar gymaint o aelodau ein côr, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae rhywun yn cael ei ysbrydoli wrth ddarllen am y gwahaniaeth enfawr mae Only Boys Aloud wedi’i wneud i’w bywydau yn gerddorol, yn gymdeithasol ac o ran eu huchelgais i’r dyfodol. Yn ychwanegol, mae’r adroddiad yn dangos bod gwaith Aloud yn creu gwerth economaidd sylweddol gan gynnwys i rai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.”
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Aloud, Tim Rhys-Evans MBE: “Mae’r arolwg hwn yn dangos ein bod yn cyflawni ein nodau, nid yn unig o ran ysbrydoli cariad at gerddoriaeth a chanu ymysg bechgyn, ond o ran bod o fuddiol i’w datblygiad cymdeithasol ac addysgol hefyd. Maen nhw’n darganfod faint o fwynhad sydd i’w gael mewn cerddoriaeth a’r budd go iawn sydd o geisio rhagoriaeth ym mha bynnag beth a wnânt yn eu bywyd. Mae gymaint o’n bechgyn yn dal ati i ymwneud â’n corau fel oedolion am ei fod yn cyfoethogi’u bywydau mewn gymaint o ffyrdd. Bydd canlyniadau’r gwaith dadansoddi hwn nawr yn rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ddenu hyd yn oed mwy o gymorth ariannol hanfodol i’n gwaith.”
Daeth yr adroddiad i’r casgliad y caiff aelodaeth o’r côr effaith fawr a chadarnhaol ar ymddygiad a ffocws bechgyn yn eu harddegau, ac yn golygu eu bod yn teimlo’n fwy hyderus, yn canolbwyntio’n well ar gyrhaeddiad academaidd, ac yn fwy medrus yn gymdeithasol yn sgil hynny.