Rhwng y 1af a’r 10fed o Orffennaf eleni, mynychodd 35 o’n bechgyn gwrs preswyl Academi Principality Only Boys Aloud yng Ngholeg yr Iwerydd ger Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.
Llwyddodd y bechgyn i ennill lle ar y cwrs trwy glyweliad nôl ym mis Ionawr ac maent yn dod o bob cwr o Gymru felly, ar gyfer llawer ohonynt, dyma’r tro cyntaf y byddent gyda’i gilydd fel grŵp.
Me diwrnod areferol yn yr Academi yn cynnwys ymarferion adrannol a llawn, gwersi theori cerddoriaeth, gwersi canu unigol a gweithgareddau awyr agored sydd, wrth gwrs, yn cynnwys bootcamp am 6 o’r gloch y bore!
Dewiswyd llawer o’r darnau ar gyfer y cwrs eleni i adlewyrchu canmlwyddiant Brwydr Passchendaele a’r thema ganolog oedd rhyfel – roedd y rhain yn cynnwys Last Letter Home gan Lee Hoiby, trefniant Martin Nesheim o The Rocky Road to Dublin, a threfniant James Steven o’r emyn adnabyddus Nearer My God To Thee. Uchafbwynt yr adran hon oedd comisiwn newydd sbon gan Mark-Anthony Turnage o ddau gerdd gan Owen Sheers a Dylan Thomas.
Aeth y bechgyn i’r afael â cherddoriaeth fyd-eang eleni gan berfformio dau o drefniannau Ethan Sperry o ganeuon gan A.R.Rahman – Zikr a Wedding Qawwali yn Urdu a Punjabi, a oedd yn eithaf her i’r bechgyn!
Y darnau sioe gerdd oedd tair cân o Everybody’s Talking About Jamie – sioe gerdd newydd sbon a ysgrifennwyd gan Gyfarwyddwr ein cwrs, Jonathan Butterell a You Will Be Found o’r sioe sydd newydd ennill Gwobr Tony, Dear Evan Hansen.
Am y tro cyntaf eleni, perfformiodd y bechgyn 4 cyngerdd. Roedd y cyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yna yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Yr wythnos ganlynol, fe wnaeth bechgyn yr Academi berfformio y tu allan i Gymru am y tro cyntaf – yng Ngholeg Marlborough yn Wiltshire a Neuadd Wigmore yn Llundain.
Gallwch ddarllen mwy am ein Academi 2017 trwy glicio ar yr erthyglau canlynol: