Mae’n bleser gan Elusen Aloud gyhoeddi bod aelodau o’i Hacademi Only Boys Aloud wedi’u dewis i berfformio yn rhan o ddathliadau Coroni Ei Fawrhydi y Brenin a’i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog.
Dyma gyfle na welwn mo’i debyg eto yn ein hoes pan fydd aelodau Academi Only Boys Aloud yn perfformio ymhlith 300 o leisiau cryf Côr y Coroni, a fydd yn canu yng Nghyngerdd y Coroni yng Nghastell Windsor ddydd Sul, 7fed Mai. Bydd mwy na 20,000 o aelodau’r cyhoedd yno, yn ogystal â’r miliynau o wylwyr a fydd yn gwylio’r darllediad o gwmpas y byd.
Yn ôl Prif Weithredwr Elusen Aloud, Carys Wynne-Morgan: “Rydym mor falch o gael gwahoddiad i ganu yng Ngŵyl y Coroni. Mae hwn yn foment hollbwysig mewn hanes a chyfle arall inni rhoi profiad bythgofiadwy i’r bobl ifanc sy’n canu gyda ni. Galluoga profiadau fel hwn inni wireddu ein cenhadaeth o drawsnewid bywydau gyda’n gilydd trwy rym cân. Hoffwn ddymuno’r gorau i’r bechgyn a phawb sy’n perfformio wrth iddynt baratoi tuag at y gyngerdd ac ar y noson ei hun, gan edrych ymlaen i’w gweld ar y llwyfan ar y 7ed.”
“Rydw i wiry n edrych ymlaen i cael y fraint o ganu o flaen y Frenin! Mi fydd yn brofiad wych i gael rhannu gyda fy ffrindiau ar y llwyfan a rhywbeth newn ni byth anghofio!”
Yn y cyfnod cyn y digwyddiad hanesyddol hwn, caiff aelodau Academi Only Boys Aloud y cyfle i weithio ochr yn ochr â mentoriaid enwog sef Gareth Malone, Motsi Mabuse, Amanda Holden, a Rose Ayling-Ellis. Byddant yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu perfformiad arbennig i’w Fawrhydi a’i Mawrhydi.
Bydd aelodau Academi Only Boys Aloud hefyd yn rhan o raglen ddogfen newydd Sing for the King: The Search for the Coronation Choir yn dilyn eu taith at Gyngerdd y Coroni. Fe’i darlledir am 8 o’r gloch nos Wener, 5ed Mai ar BBC1.
Mae Academi Only Boys Aloud yn rhoi cyfleoedd i fechgyn ifanc yn eu harddegau, sydd yn rhan o raglen côr Only Boys Aloud Elusen Aloud, fod yn rhan o hyfforddiant dwys, dosbarthiadau meistri, a chyfleoedd preswyl i ddatblygu eu sgiliau canu a pherfformio. Caiff pobl ifanc 16 i 19 oed o gymunedau ledled Cymru hyfforddiant o safon uchel a chyfle i berfformio mewn perfformiadau cyhoeddus proffil uchel. Bydd hyn oll yn meithrin eu huchelgais i’r dyfodol ac yn ysbrydoli’r rheiny sydd â diddordeb mewn dyfodol yn y celfyddydau perfformio.
A hwythau ymhlith mil o ymgeiswyr, mae Elusen Aloud yn falch y bydd aelodau ein Hacademi Only Boys Aloud yn ymuno â chorau eraill o bob cwr o’r DU (gan gynnwys Côr Meibion Caerffili a Chôr Ffoaduriaid Oasis) yn y digwyddiad hanesyddol hwn.
“It is an honour to be given the opportunity to perform in the Coronation Concert, representing both my Choir Only Boys Aloud and my Nation of Wales in this landmark event in British History.”