Mae Elusen Aloud yn hynod falch o ddweud bod Academi Only Boys Aloud 2023 wedi bod yn llwyddiant!
Yn dilyn clyweliadau yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd 23 o aelodau Only Boys Aloud ar draws Cymru eu dethol i gymryd rhan yn rhaglen Academi 2023.
Cwrs Preswyl yr Academi
Cynhaliwyd cwrs preswyl wythnos o hyd rhwng 21 a 27 Gorffennaf yn Moreton Hall, Croesoswallt, pan gafodd aelodau Academi Only Boys Aloud gyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder trwy raglen lawn o ymarferion, hyfforddiant a dosbarthiadau meistr!
Ar ddechrau’r wythnos darparwyd gwersi crefft y cerddor, ymarferion adrannol, a gwersi lleisiol unigol a oedd yn darparu cefnogaeth 1-1 i’r aelodau yn ogystal â hyfforddiant arbenigol.
Cafodd y cyfranogwyr gyfle i archwilio amrediad o repertoire yn cynnwys cerddoriaeth gan Purcell, Hoddinott, a Sondheim.
Roeddem wrth ein boddau o gael croesawu Callum Scott Howells, ein Llysgennad Ieuenctid a chyn-aelod o Only Boys Aloud, atom i roi dosbarth meistr cerddorol arbennig ar gyfer aelodau’r Academi.
Gweithiodd Callum gyda’r grŵp i archwilio’r dulliau o ddatblygu cymeriad a sut i fynegi emosiwn trwy gân. Ac yntau wedi chwarae rhan Emcee yn y sioe gerdd arobryn Cabaret yn ddiweddar, gweithiodd Callum gyda’r grŵp wrth iddynt baratoi i berfformio medli o ganeuon Cabaret.
Rhannodd Callum ei brofiadau gyda’r bechgyn hefyd mewn sesiwn Holi ac Ateb hynod ddiddorol gan eu hysbrydoli ynglŷn â gwahanol lwybrau gyrfa yn y West End a’r hyn sydd ei angen i lwyddo mewn clyweliad.
Cyngherddau Cadeirlan
Penllanw rhaglen breswyl yr Academi oedd y ddau gyngerdd eithriadol a gafwyd yng Nghadeirlan Llanelwy yng Ngogledd Cymru a Chadeirlan Llandâf yn Ne Cymru. Daeth cynulleidfa o dros 250 ynghŷd, yn deulu, ffrindiau, cefnogwyr a’r gymuned ehangach, i gefnogi perfformiadau’r bechgyn.
Roeddem yn hynod o falch bod aelodau côr Only Boys Aloud o Dde Cymru wedi mynychu’r perfformiad yng Nghadeirlan Llandâf gan berfformio gydag aelodau’r Academi.
“I feel like I said goodbye to my boy last week and he’s come back a different, confident, excited, and very happy young man. That’s the true power of what The Aloud Charity does. Music is just part of the journey I’m so very proud”. Sara Jones, Rhiant aelod o Academi Only Boys Aloud 2023.
Ar ôl y cwrs preswyl, bydd bechgyn yr Academi yn cychwyn ar daith i Ffrainc lle byddant yn perfformio i gynulleidfa ryngwladol fel rhan o Ŵyl Ryng-Geltaidd Lorient.
Hoffai Elusen Aloud ddiolch i Ymddiriedolwyr y Mosawi Foundation am eu cefnogaeth hael ac ymroddedig i’n Hacademi Only Boys Aloud. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eu brwdfrydedd a’u cred yn y prosiect.
“Being part of the 2023 Academi was a privilege, yet a very tough and intense week. It was amazing to see that the hard work had paid off with 2 performances in amazing venues. We grew close as a group over the week, new friends were made and we grew in confidence. It was great to have a masterclass from Callum Scott Howells and hearing about his experiences since being a member of the choir.” Joe Tucker, Aelod o Academi Only Boys Aloud