Ar y 27ain ar 28ain o Chwefror, aeth aelodau o Academi Only Boys Aloud i berfformio yn Llundain fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain. Ar nos Fercher y 27ain canodd y bechgyn fel rhan o dderbyniad mewn clwb aelodau preifat a buont yn ddigon ffodus i gael taith o gwmpas yr adeilad hanesyddol yma.
Ar fore Iau, aethom draw i San Steffan yn gynnar i berfformio fel rhan o’u dathliadau Gwyl Ddewi. Yr uchafbwyntiau oedd canu Calon Lân i Lefarydd Ty’r Cyffredin, John Bercow, perfformio yn y Capel hyfryd – St Mary Undercroft fel rhan o’r gwasaneth Gwyl Ddewi, a pherfformio yn yr Ystafell Jiwbili ym Mhalas San Steffan.
Fel rhan o’r derbyniad yn yr Ystafell Jiwbili, cafodd y gwahoddedigion flas o ddanteithion Cymreig gan gynnwys bara brith gan Penylan Preserves, Pice ar y Maen gan Calon Lân Cakes a chaws Cymreig gan Snowdonia Cheese Company. Diolch yn fawr iawn i’r cwmniau am eu rhodd hael i’r diwrnod – roedd y gwahoddedigion wrth eu boddau!