Academi Only Boys Aloud ydi’r prif artistiaid sy’n cynrychioli Cymru yng Ngŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient yn Llydaw, 5 – 22 Awst 2022!
Y Festival Interceltique de Lorient ydi’r ŵyl fwyaf yn Llydaw a Ffrainc, gan ddennu tua 750,000 o ymwelwyr pob blwyddyn. Mae’r wyl yn rhoi llwyfan i dros 4,500 o artistiaid o 11 cenedl geltaidd.
Sefydlwyd yr Academi flynyddol Aloud yn 2011 i gynnig gwersi arbenigol ac unigol i aelodau Only Boys Aloud (OBA) sydd wedi dangos yr ymrwymiad a’r potensial cerddorol mwyaf.
Ar y 25-29 Gorffennaf, cynhaliwyd Academi Aloud am y tro cyntaf mewn tair blynedd, gyda 25 aelod o gorau OBA yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn wythnos breswyl yn Neuadd Moreton, Croesoswallt. Bydd côr yr Academi yn arddangos eu gwaith yn Lorient yr wythnos hon, fel y prif artistiaid fydd yn cynrychioli Cymru.
Dywedodd Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud:
“Mae’r bechgyn wedi bod yn gweithio yn arbennig o galed yn yr Academi yn Neuadd Moreton – yn gweithio ac ymarfer dros 12 awr y dydd! Yn ogystal â’r paratoadau cyngerdd a pherfformio, maent wedi cael gwersi canu unigol, dosbarthiadau theori a sesiynau symudiad.”Côr Only Boys Aloud fydd yr unig gôr o Gymru yn yr ŵyl, a byddent yn perfformio ar bedair noson yn y brif Stadiwm – Le Stade Lorient – fel rhan o’r sioe gloi, Le Grande Sectacle du Festival. Bydd yr Academi yn cynnal naw perfformiad i gyd yn yr ŵyl, gyda dau gyngerdd OBA ychwanegol yn Le Palais ac Musiques et Danses des Payes Celtes Lorient, a thri pherfformiad yn y Pafiliwn Cymraeg.
Mewn repertoire uchelgeisiol o ganeuon yn amrywio o Schubert i Sondheim ymysg cyfansoddwyr eraill, bydd y côr yn perfformio mewn chwe iaith gan gynnwys Hebraeg, Lladin a Chosa (iaith o Dde Affrica), gyda mwyafrif eu perfformiadau yn y Gymraeg.
Meddai, Celt Llewelyn-Jones, Bariton ac aelod Academi:
“Mae wedi bod yn fraint cyfarfod pawb a bod yn rhan o’r tîm, rhannu’r sgiliau a diddordebau sydd gennym. Dwi wir wedi mwynhau dysgu’r holl ieithoedd a’r arddulliau, a dw i methu aros at Lorient!”Mae rhestr lawn o berfforimadau Academi OBA yn Lorient i’w cael yma. Hoffwn ddiolch i The Mosawi Foundation am eu cefnogaeth tuag at Academi OBA 2022.