Mae’n ddiwedd ar y flwyddyn academaidd a dechrau’r gwyliau haf i’n bechgyn ni. Wrth i ni ffarwelio ag ambell un o’n haelodau gan eu bod yn cychwyn yn y brifysgol ym mis Medi, mae’n gyfle da i ni edrych nôl ar y flwyddyn hyd yma. Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel! Dyma grynodeb o’r digwyddiadau a phrosiectau mae’r bechgyn wedi bod yn rhan ohonynt eleni. Cofiwch bod lluniau o’r digwyddiadau hyn i’w gweld ar ein Galeri
Ionawr – Perfformio yn Venue Cymru, Llandudno fel rhan o ‘Take pART’.
Chwefror – Perfformio yn lansiad ‘School of Hard Knocks Wales’ yn y Senedd, Bae Caerdydd.
Mawrth – Perfformio yn sermoni wobrwyo Cymdeithas Adeiladu’r Principality yng Nghanolfan y Mileniwm.
Mawrth – Perfformio yn noson wobrywo HR Cymru.
Chwefror a Mawrth – Cyngherddau codi arian lleol wedi eu trefnu gan y bechgyn eu hunain i godi arian ar gyfer ein taith i Ypres, Gwlad Belg ym mis Tachwedd 2017.
Mawrth/Ebrill – Ymarferion a recordio opera newydd yn yr iaith Gymraeg ‘2117 – Hedd Wyn’ gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Mai – Gweithdai ysgrifennu caneuon ym Merthyr Tydfil gydag Amy Wadge.
Mai – Perfformio yang Nghyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-Bont.
Mehefin – Perfformio yn ngwyl UEFA – y ‘Champions League Festival’ ym Mae Caerdydd
Mehefin – Perfformio yn Nghinio y ‘Champions League’ yng Nghastell Caerdydd.
Mehefin – Perfformio yn seremoni torri tir y Ganolfan Gynhadledd Rhygwladol newydd yn y Celtic Manor, Casnewydd.
Gorffennaf – Perfformio y Neges Heddwch yn Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen. Cyfansoddwyd y neges heddwch gan ein Capten Tîm, Nia Wyn Jones.
Gorffennaf – Cynhaliwyd ein Academi Principality Only Boys Aloud yng Ngholeg yr Iwerydd, Llanilltud Fawr. Yn ogystal â’r cwrs preswyl 10 diwrnod, perfformiodd yr Academi mewn 4 cyngerdd – yn Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangolln, yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru yng Nghaerdydd, Yn Ngholeg Marlborough ac yn Neuadd Wigmore, Llundain.
Gobeithiwn y caiff y bechgyn hoe dos yr haf yn barod am dymor prysur arall yn yr Hydref!