Am gyfle!
Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi Stryd Downing, cafodd aelodau ein Academi wahoddiad i ganu mewn derbyniad yn 10 Stryd Downing! Dyma gyfle anhygoel i ganu mewn lle mor eiconig a byd-enwog! Cyn bo hir, roeddem ar fws ar ein ffordd i ganol Llundain a chawsom ein gollwng ar Whitehall ble gwelsom Stryd Downing am y tro cyntaf. Camodd pawb oddi ar y bws a gwneud ein ffordd tuag at y gatiau enwog ble roedd rhaid i bawb ddangos eu pasport cyn mynd trwy Ddiogelwch. Yna, roedden ni mewn! Roeddem ni’n medru gweld drws sgleiniog Downing Street yn y pellter ac roedd yn deimlad mor rhyfedd cerdded trwy ddrws ble mae cynifer o gyn prif weinidogion, Aelodau Seneddol ac arweinwyr enwog wedi cerdded yn y gorffennol. Yno, aethom fyny’r grisiau, heibio lluniau o Brif Weinidogion y gorffennol ac mewn i’r ystafell ble roedden ni am berfformio. Cawsom ymarfer bach cyn i bawb gyrraedd ac wedyn cawsom y cyfle i gyfarfod â rhai o’r gwesteion. Yna, daeth David Cameron i mewn a chanon ni Calon Lân a Try Again ac yna fe ddaeth i siarad gyda ni! Ar ôl ein perfformiad, roedd hi’n amser i fynd nôl ar y bws ac anelu am adre (gyda stop yn y Gwasanaethau am Burger King, wrth gwrs!) Efallai na fyddwn ni byth eto yn cael y cyfle i berfformio yn Stryd Downing felly nawn ni ddim anghofio’r perfformiad yma!